Drwm Taro
Bydd gŵyl offerynnau taro newydd gan Ganolfan Gerdd William Mathias yn cael ei lansio’n swyddogol ddiwedd yr wythnos hon.
Bydd lansiad ‘Taro’r Doc!’ yn digwydd ddydd Gwener yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon am 2pm.
Bydd rhai o ddisgyblion y Ganolfan a’u tiwtoriaid yn perfformio ac yna’n gofyn i’r cyhoedd roi tro ar gyd-chwarae â nhw.
Bydd modd i aelodau’r cyhoedd sydd eisiau cymryd rhan ddod a’u hofferynnau taro eu hunain.
Yr ŵyl
Caff yr ŵyl ei chynnal ar Orffennaf 8-10 yn Galeri Caernarfon ac yn gado rhywbeth fydd at ddant pawb sydd yn mynd.
Mae rhai ysgolion lleol hefyd yn rhan o’r trefniadau, gan gynnwys plant Ysgol Pen y Bryn, Bethesda sydd wedi bod yn cyfansoddi gyda’r Prifardd Twm Morys.
Bydd y farddoniaeth yn cael ei pherfformio yng Nghastell Caernarfon ar ddydd Sul yr Ŵyl yn yr hen ddull ‘Pen Pastwn’ gan daro’u pastynau i’r curiad.
Mae cyngherddau hefyd yn rhan o’r arlwy, ac yn cynnwys perfformwyr fel Dewi Ellis Jones, Harvey Davies, Côr Ieuenctid Môn a Chôr Siambr.
Uchafbwynt yr Ŵyl fydd y gwahoddiad agored i unrhyw un sydd yn medru taro unrhyw beth i ddod i gymryd rhan mewn torf fawr o amgylch Doc Fictoria am 2pm ar ddydd Sadwrn yr Ŵyl (y 9fed).
Dim cythraul cystadlu
“Mae ’na statws i offerynwyr taro. Dw i’n cofio clywed Carmina Burana gan Carl Orff a meddwl gymaint o offerynnau taro oedd ‘na. Rydw i eisiau i’r ŵyl fod yn llwyddiant,” meddai Sioned Webb, Cyfarwyddwr yr Ŵyl Daro gan Ganolfan Gerdd William Mathias.
Roedd yn pwysleisio ei bod yn bwysig cynnal gwyliau sydd ddim yn cynnwys unrhyw gystadlu.
“Roedd safon y cystadlu yn yr Urdd yn wefreiddiol. Ond, lle mae ’na un seren, mae yna gannoedd o bobl sydd â diddordeb mewn cerdd ond sydd heb yr hyder i gystadlu.
“Rydw i’n teimlo fod ein diwylliant ni yn rhoi gormod o bwyslais ar gystadlu. Ond nid pawb sy’n gystadleuol.”
‘Codi ymwybyddiaeth’
Dywedodd Dewi Ellis Jones o Lanfairpwll sy’n athro a gwneuthurwyr drymiau yng Nghanolfan gerdd William Mathias ei fod yn gobeithio y bydd yr ŵyl yn “codi ymwybyddiaeth o offerynnau taro” a chyfleoedd i berfformwyr.
Mae Dewi Ellis Jones wedi gwneud drwm arbennig i’r ŵyl ei gynnig ar raffl. Mae’r drwm – sydd werth tua £600.00 wedi’i gwneud o bren Walnout Burr, coeden brin ac mae ganddo ddarnau aur arno a hwps masarnen.
“Mae offerynwyr taro yn aml yng nghefn y gerddorfa, neu’n sefyll i chwarae’r triongl am 5 munud cyn eistedd i lawr am weddill y perfformiad,” meddai.
Dywedodd fod yr ŵyl yn gyfle i bobl o bob math o gefndiroedd ddod i wybod mwy am offerynnau taro.