Clawr Land of Bingo
Mae grŵp newydd o Gymru, sydd ag aelodau profiadol iawn, wedi rhyddhau eu cynnyrch cyntaf heddiw.

Enw’r prosiect newydd ydy Land of Bingo, ac mae eu LP 7 cân newydd ‘Bottle it up’ ar gael i’w brynu ar label Peski bellach.

Er bod y prosiect electonica yn un ffres iawn, mae’r tri aelod o’r band yn gyfarwydd iawn â’r sin gerddoriaeth gyfoes yng Nghymru.

Mae Rhys Edwards yn fwy adnabyddus dan ei enw perfformio ‘Jakokoyak’ ac wedi bod yn cynhyrchu cerddoriaeth ‘folktronig’ yn llwyddiannus iawn dan yr enw ers rhai blynyddoedd. Roedd ei albwm cyntaf ‘Am Cyfan Dy Pethau Prydferth’ yn llwyddiannus iawn yn 2003, gan agor y drws ar gyfer cerddoriaeth o’r arddull yma yn yr iaith Gymraeg.

Mae Haydon Hughes hefyd wedi bod yn arloesi gyda’i brosiectau electronig Seindorff ac Y Pencadlys, tra bod y trydydd aelod, a’r drymiwr, Gruff Ifan, yn aelod o Texas Radio Band yn ogystal â pherfformio gyda nifer o artistiaid eraill dros y blynyddoedd.

Os nad ydy hyn yn ddigon o dalent cerddorol mewn un band, mae’r cryno albwm newydd yn cynnwys cyfraniadau arbennig gan Gwenno Saunders o The Pipettes, a Guto Pryce o’r Super Furry Animals.


Rhys a Haydon Land of Bingo
Swistir wedi cael rhagflas

Er mai heddiw ydy dyddiad rhyddhau cynnyrch cyntaf y grŵp ym Mhrydain, mae’r cryno albwm eisoes allan yn y Swistir ers mis Ionawr.

Mae Land of Bingo hefyd wedi cwblhau taith arbennig o lwyddiannus yn y Swistir, diolch i bartneriaeth gyda’r label Poor Records.

Mae’r albwm ar gael i’w brynu ar finyl neu i’w lawr lwytho. Mae modd gwrando ar y traciau ar wefan Soundcloud hefyd.