Cyhoeddwyd rhestr fer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn – gwobr fydd yn cael ei chyflwyno yng Nghaffi Maes B ddydd Gwener, Awst 11.
Bwriad y wobr yw dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg sy’n cael ei ryddhau yng Nghymru, ac mae’r rhestr fer yn gymysgedd o gynnyrch ac artistiaid.
Mae’r albymau i gyd wedi’u cyhoeddi rhwng Mawrth 1, 2016 a diwedd Ebrill 2017.
Bu rheithgor o unigolion sy’n rhan o’r diwydiant cerddoriaeth yn dewis a dethol eu hoff gynnyrch, gan bleidleisio am eu ffefrynnau ar ddiwedd y broses.
Y deg
· Band Pres Llareggub – Kurn
· Bendith – Bendith
· Calan – Solomon
· Castles – Fforesteering
· Gwilym Bowen Rhys – O Groth y Ddaear
· Meinir Gwilym – Llwybrau
· Mr Huw – Gwna dy Feddwl i Lawr
· Ryland Teifi – Man Rhydd
· The Gentle Good – Ruins / Adfeilion
· Yws Gwynedd – Anrheoli
“Mae’r wobr hon yn rhan bwysig o’r Eisteddfod erbyn hyn ac yn rhoi lle pwysig i gerddoriaeth Gymraeg gyfoes o bob math,” meddai Guto Brychan, un o drefnwyr y wobr.
“Mae bob amser yn ddiddorol gweld beth sy’n apelio at y rheithgor ac yna’r beirniaid, ac mae’r ffaith mai’r rheiny sy’n ymwneud â’r diwydiant cerddoriaeth sy’n dewis yn sicrhau hygrededd y wobr.”