Mae gwasanaeth cudd-wybodaeth yr Wcráin wedi gwahardd cystadleuydd Rwsia rhag cymryd rhan yng nghystadleuaeth Eurovision eleni, oherwydd ei bod wedi perfformio yn y Crimea.
Roedd Rwsia wedi dewis y gantores Yulia Samoylova i’w chynrychioli yn y gystadleuaeth fydd yn cael ei chynnal yn ninas Kiev fis Mai.
Yn y gorffennol mae’r gantores wedi perfformio yn Crimea – tiriogaeth sydd wedi ei meddiannu gan Rwsia – a chan nad oedd hi wedi mynd i fewn i’r diriogaeth trwy’r ffin Wcrainaidd yn ôl cyfraith y wlad mae modd ei gwahardd.
Yn ôl llefarydd ar ran gwasanaethau cudd yr Wcráin, mi fydd y gwaharddiad yn para am dair blynedd gan ei bod wedi torri cyfraith y wlad.
Mae Yulia Samoylova wedi bod mewn cadair olwyn ers ei phlentyndod ac fe ganodd yn ystod seremoni agoriadol Gemau Paralympaidd 2014 yn Sochi, Rwsia.