Y diweddar Deke Leonard (Llun: Alchetron)
Mae gitarydd y band ‘Man’, Deke Leonard wedi marw’n 72 oed.

Roedd yn enedigol o Lanelli, ond yn adnabyddus fel aelod o’r band roc a blŵs o Abertawe.

Fe ddychwelodd i Gymru i fyw yn ddiweddar, ac roedd yn wyneb cyfarwydd yng Ngŵyl Talacharn.

Mae’n gadael gwraig, Mary a merch, Kate.

Ymhlith cynnyrch enwoca’r band mae albym a gafodd ei recordio ym Mhafiliwn Patti yn Abertawe yn 1972.

Teyrngedau

Mae teyrngedau wedi’u rhoi iddo gan ddau o’i ffrindiau, y cynhyrchydd ffilm Kevin Allen a’r awdur Paul Durden.

Dywedodd Kevin Allen ei fod yn “ŵr bonheddig yn y byd roc asid” a bod ganddo fe “bresenoldeb gwych ar y llwyfan”.

Dywedodd Paul Durden: “Nid yn unig roedd e’n gerddor gwych, ond roedd ei lyfrau wedi’u hysgrifennu’n dda.

“Roedd yn aelod hŷn o’r byd cerddoriaeth roc, ac roedd yn ddyn gwych.”