Sian Phillips (Llun: PA)
Mae ffilm a gafodd ei saethu yng Nghymru wedi ennill sawl gwobr mewn gŵyl ffilmiau yn Siapan.
Enillodd Checkmate wobr fawr y Grand Prix a’r wobr am y Gerddoriaeth Oriau diolch i gyfansoddiadau Alexander Shulgin o Rwsia. Cafodd yr ŵyl ei chynnal yn Tokyo ar Ionawr 28.
Cafodd y ffilm ei chyfarwyddo gan Jason Bradbury, ac mae’n cynnwys Siân Phillips a’r Eidales, Ornella Muti.
Mae hefyd yn cynnwys Lachlan Nieober, sy’n adnabyddus am ei rôl fel Edward Courtenay yn Downton Abbey, a Susanna Cappellaro (Dark Shadows).
Mae’r ffilm yn adrodd hanes dwy chwaer, Penury a Prosperity sy’n paratoi ar gyfer gêm wyddbwyll sy’n rheoli tynged dau o bobol eraill, Irina a Dimitri.
Cafodd y sgript ei ysgrifennu gan Eugenia Caruso, ac fe gafodd y ffilm ei saethu mewn nifer o leoliadau, gan gynnwys Castell Dolbadarn, plasty Baron Hill yn Biwmares, a Pharc Cenedlaethol Eryri.