Lucie Jones (Llun: o'i chyfrif Twitter swyddogol)
Mae Lucie Jones sy’n wreiddiol o Bentyrch ger Caerdydd wedi’i dewis i gynrychioli’r Deyrnas Unedig yng nghystadleuaeth yr Eurovision ym mis Mai.
Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i’r cynrychiolydd ddod o Gymru wedi i Joe Woolford o Ruthun gael ei ddewis fel rhan o ddeuawd ‘Joe and Jake’ yn y gystadleuaeth y llynedd yn Sweden.
Cafodd Lucie Jones ei dewis wedi iddi ennill y rhaglen deledu Eurovision: You Decide dros y penwythnos.
Mae’r ferch 25 oed, yn adnabyddus wedi iddi gystadlu yng nghystadleuaeth yr X Factor yn 2009 gan ddod yn wythfed.
Bydd yn perfformio’r gân ‘Never Give Up On You’ yn Kiev, Wcráin ym mis Mai.
Ac mae disgwyl y bydd baneri’r ddraig goch i’w gweld yn chwifio yn ystod y gystadleuaeth, wedi i drefnwyr Eurovision wneud tro pedol y llynedd ar ôl gwahardd baneri cenedlaethol, rhanbarthol a lleol yn wreiddiol.