Mae beth bynnag ddeg o bobol wedi’u hanafu wedi i reiling gwympo mewn cyngerdd awyr agored gan y rapiwr, Snoop Dogg yn New Jersey.

Fe syrthiodd y partisiwn a oedd yn gwahanu’r gynulleidfa oddi wrth y llwyfan ym Mhafiliwn BB&T yn nhre’ Camden. Fe ddigwyddodd toc cyn 10.30yh nos WEner.

Mae’r awdurdodau’n dweud fod “rhwng 10 a 15 o bobol” wedi’u hanafu, a phump o’r rheiny wedi’u cludo i’r ysbyty.