Eurig Salisbury - Medal dydd Mercher, ac ail am y Gadair
Eurig Salisbury oedd yn ail am Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Y darlithydd a enillodd y Fedal Ryddiaith ddydd Mercher, oedd ‘Siac’ yn y gystadleuaeth am y wobr a roddwyd i nodi hanner canrif ers i Dic Jones ennill ei gadair genedlaethol gyntaf yn Aberafan yn 1966.
‘Siencin’ oedd ei ffugenw ddydd Mercher, a ‘Siac’ ddydd Gwener, gan adleisio’r tri chymeriad Hincin a Siencin a Siac a enwir yng ngherdd Dafydd ap Gwilym, ‘Trafferth Mewn Tafarn’. Ond, o chwilio’r gyfrol Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, dyw hi ddim yn ymddangos fod yna’r un Hincin ymysg cystadleuwyr llenyddol eraill Y Fenni.
Yn ei feirniadaeth ar gystadleuaeth y Gadair, mae’r Prifardd Tudur Dylan Jones yn dweud am Siac, “Mae’n amheus gen i a fu cynganeddwr mwy rhugl na hwn ers blynyddoedd. Y teimlad a gawn oedd y gallai hwn fod yn dweud unrhyw beth mewn cerdd dafod”.
Roedd Eurig wedi ysgrifennu dilyniant o gerddi ar y testun, Ffiniau, yn trafod taith i Mumbai i farddoni. Ar y ffordd mae’n rhoi peltan go hegar i Gymry cul a’r Ymherodraeth Brydeinig, cyn cyrraedd gwyl lenyddol yn India sy’n ei lenwi â hyder cyn iddo droi’n ol am adref.
Mae’r Prifardd Meirion MacIntyre Huws, un arall o’r tri beirniad, yn disgrifio Eurig Salisbury fel bardd “clyfar iawn a mentrus”, cyn ei feirniadu am gynnwys nodyn gyda’i gerddi yn dweud ei fod wedi cadw at amodau’r gystadleuaeth o 250 llinell os y caiff y cynganeddion eu hysgrifennu allan yn y dull traddodiadol, yn hytrach na’u gwasgaru ar y papur.
Yn ol y trydydd beirniad, yr academydd Cathryn A Charnell-White, “er bod y gyfres ar ei hyd yn cymryd amser i fagu momentwm, o ran crefft, Siac yw’r cynganeddwr mwyaf hyderus, a’r un mwyaf mentrus hefyd…”