Mae Cowbois Rhos Botwnnog yn parhau i fod yn un o bandiau mwyaf poblogaidd y sîn roc Gymraeg
Dau frawd sy’n aelodau o’r grŵp Cowbois Rhos Botwnnog fydd yn arwain cyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 2017.
Dywedodd Aled a Dafydd Hughes y byddai’r cynhyrchiad yn “her” ond bod cael cyfrifoldeb amdano yn “fraint” hefyd.
Union 100 mlynedd ar ôl iddo ennill yn y Genedlaethol, bydd y cyngerdd yn coffáu Hedd Wyn, bardd y Gadair Ddu, a aeth i’r Rhyfel Mawr ond na ddaeth yn ôl.
Mae’n debyg y bydd y cynhyrchiad yn canolbwyntio ar genhedlaeth o fechgyn ifanc wnaeth ddim dychwelyd i Gymru o’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Dyma hefyd fydd cyngerdd Côr yr Eisteddfod yn y Brifwyl ym Môn, fydd wedi’i leoli ger pentref Bodedern.
‘Arbrofi ag arddulliau cerddorol’
Dywedodd y ddau frawd fod y prosiect yn gyfle i “arbrofi gyda chymaint o arddulliau cerddorol gwahanol”.
“Bydd yn brofiad newydd a chyffrous i gydweithio gyda’r tîm i dynnu popeth ynghyd, gweithio gyda cherddorfa broffesiynol, a chreu cyfanwaith a fydd, gobeithio, yn goffâd teilwng ar lwyfan yr Eisteddfod,” meddai Aled a Dafydd Hughes.
Bydd y bardd Guto Dafydd yn cydweithio â’r ddau, ac yn mynd i weithdai cymunedol ar draws Gwynedd a Môn cyn dechrau ar y gwaith cyfansoddi.
Mae’r gwaith yn dechrau drwy gasglu atgofion, straeon ac unrhyw wybodaeth berthnasol i’w “helpu a’u hysbrydoli” dros y misoedd nesaf wrth weithio ar y gerddoriaeth a’r geiriau.
Y cyfansoddwr Paul Mealor fydd hefyd yn gofalu am ran o’r cyfanwaith, yn ogystal â’r cerddor, John Quirk.
Bydd Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn cael ei chynnal rhwng 4 a 12 Awst 2017.