Elin Fflur fydd un o gyflwynwyr y gystadleuaeth unwaith eto
Mae’r wyth cân sydd ar y rhestr fer yn y ras am wobr Cân i Gymru 2016 wedi cael eu cyhoeddi gan S4C.
Y tro hwn, gwylwyr yn unig fydd yn penderfynu pwy fydd yn cipio’r wobr ariannol gwerth £5,000 drwy bleidlais ffôn pan fydd y rhaglen yn cael ei darlledu’n fyw nos Sadwrn 5 Mawrth.
Ond bydd gwobr ychwanegol, sef Tlws y Beirniaid, i’r gân orau gan y tri beirniad ar y noson.
Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris fydd yn cyflwyno’r rhaglen o stiwdios BBC Cymru, Caerdydd.
Yr wyth cân sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yw:
‘Caru nhw i gyd’ gan Sion Meirion Owens
‘Actor Gorau Cymru’ gan Barry Jones
‘Y Penderfyniad’ gan Beth Williams-Jones a Sam Humphreys
‘Caeth’ gan Sarah Wynn
‘Dim ond un’ gan Cordia
‘Ar ei ffordd’ gan Alun Evans
‘Cannwyll’ gan Geth Vaughan
‘Meddwl am ti’ gan Kizzy ac Eady Crawford
‘Y gân orau ers 1982’
Mae S4C hefyd yn rhoi’r cyfle i wylwyr bleidleisio am eu hoff gan fuddugol o’r gorffennol ers i’r sianel ddechrau darlledu’r digwyddiad yn 1982.
Mae 33 cân fuddugol yn y pôl, o ‘Nid Llwynog Oedd yr Haul’ gan Myrddin ap Dafydd a Geraint Lovgreen yn 1982 i ‘Y Lleuad a’r Sêr’ gan Arfon Wyn a Richard James Roberts yn 2015.
Y bwriad yw perfformio’r gân fwyaf poblogaidd ar y rhaglen fel rhan o ddathliadau’r rhaglen.
Gallwch bleidleisio, ar wefan S4C, cyn i’r pôl gau ddydd Llun nesaf, 29 Chwefror.