Sul: 10yb. Derek y Dyn Tywydd yn gwybod ei stwff – mae’r tywydd yn dal i wella. Fel ffwrnais yn y babell! Disgwyl mlaen heddi i weld Joanna Newsom y delynores drawiadol, prosiect In Chapters Richard James a gobeitho dwrnaid o fandiau o Gymru, gan gynnwys Brigyn. Nol cyn hir…
5.30yb – gwely!
12.30yb – yn Nhafarn y Dyn Gwyrdd yn dawnsio fel ffwl i’r djs poblogaidd Guilty Pleasures, sy’n chwarae oriau o cyfars diddorol o ganeuon bluegrass i Bowie.
11.30yh – The Flaming Lips, hwre! Set arbennig yn llawn balwnau enfawr, tafluniadau go sosi a’r prif ganwr Wayne Coyne yn crwydro uwchben y dorf mewn swigen enfawr – dw i eisie tro! Heblaw am ffrogau oren y merched, yr unig wisgoedd ffansi sydd gan y band heno yw un arth enfawr sy’n cario Wayne ar ei ysgwyddau yn ystod un o’r caneuon – dw i ddim yn credu y bydden i wedi gallu gwneud ’ny chwaith…
9.45yh – gwylio band o’r enw First Aid Kit, sef dwy chwaer o Sweden sy’n swnio’n fwy tebygol i bar o hen ddynion yn eistedd ar bortsh yn Kentucky. Mwynhau eu fersiwn hudol o un o ganeuon y Fleet Foxes yn fawr.
Gweld rhywun yn hwyrach mlaen sy newydd wylio y digrifwr Gareth Brand o Gaerdydd – un i wylio mae’n debyg.
8yh – Newydd glywed ein bod wedi colli’r cyfle o ran cadarnhau ein presenoldeb ar y llwyfan gyda’r Flaming Lips – rhy brysur yn joio, drat!
7yh – gwylio band o’r enw Avi Buffalo – marciau uchel am gael drymiwr benywaidd.
5.30yh – gwylio rhyw ugain munud o’r bardd pync John Cooper Clark, sydd yn ol pob tebyg yn ddylanwad mawr ar yr Arctic Monkeys. Mae e’n ddiddanwr gret ac yn dal sylw’r dorf enfawr yn yr un ffordd ag y gwnaeth Howard Marks llynedd. Teimlo ychydig yn fwy diwylliedig felly’n haeddu peint arall o seidr cryf i ddadwneud yr holl waith da.
4yh – gwrando ar Y Niwl o du fas y babell sinema. Un o fy hoff fandiau Cymraeg ar hyn o bryd, gyda’u cerddoriaeth offerynnol fywiog. ‘Garage surf’ medde rhywun… Yn anffodus, dw i’n colli band newydd Richard James, Pen Pastwn ond yn benderfynol o’i weld yn perfformio fory felly panig drosodd.
3yh – clywed seiniau bywiog y Race Horses o’r prif lwyfan felly bant a fi i’w gweld nhw. Jesd fel y profiad o weld El Goodo, ma fe’n gret weithie i gael band popaidd i dorri fyny llawer o’r setiau gwerinol. Set wych a nerthol.
1yh – Diolch i’m statws fel un o ‘wags’ El Goodo, dw i’n gwario’r oriau nesa fel tipyn o grwpi, yn stelcio enwogion (Billy Bragg, Wayne Coyne!), yn yfed bybli ac yn gwylio’r bois yn gwneud cyfweliad gyda Bethan Elfyn, ac yn chwarae set fyw ar gyfer gorsaf radio y Dyn Gwyrdd – rhywbeth hollol newydd a chyffrous am eleni.
Yn pasio Jo a Danny ar y ffordd o’r babell, sef y cerddorion lleol a ddechreuodd yr wyl wyth mlynedd yn ol. Y ddau yn gwenu o glust i glust.
HWRE! Fy nghariad wedi cael sgwrs gyda Wayne Coyne, prif ganwr The Flaming Lips ac mae ein henwau i lawr (fi a ffrind) i ymuno a’r band ar y llwyfan mewn gwisgoedd ffansi heno!
Sadwrn. 12yh – Cyrraedd ar y dot i wylio set El Goodo o Gastell Nedd. Er ei bod hi’n pistyllio i lawr, ma na lot fawr o bobl yma i’w cefnogi ac mae’r band yn chwarae set fendigedig, yn llawn allweddellau chwyrliog, rhythmau carlamus a phop baroc. Ma’r trwmpedwyr yn swnio’n ffantastig ac ma’r diweddglo’n llawn brwdfrydedd. A’r eiliad ma’r set yn dod i ben? Haul.