Sadwrn: 9yb – Dal i lawio ond bore da iawn yn ystyried campau ‘Jon’ neithiwr…. edrych mlaen yn arw heddiw i ddechre’r diwrnod yn gwylio band fy nghariad – El Goodo o Gastell Nedd. Ma na gannoedd o fandiau eraill o Gymru yn chwarae heddiw yn cynnwys Race Horses, The Gentle Good, Y Niwl, Pen Pastwn (un o brosiectau newydd Richard James os dw i di deall yn iawn) a Sweet Baboo. Disgwyl mlaen i weld Billy Bragg, Avi Buffalo , a The Unthanks hefyd.
Ond yr un mawr fydd The Flaming Lips heno – hwre. Mae sioeau’r bois ma yn llawn gwisgoedd rhyfedd, balwnau, pypedau, tafluniadau fideo a chonffeti. Croesi bysedd y byddai’n taro mewn i Wayne Coyne – y dyn tal, llwyd-farfog sy’n prif ganwr iddyn nhw. Yn ôl fy ffrind Elin o Gastell-Nedd sydd eisoes wedi ymuno a’r band ar lwyfan wedi gwisgo fel UFO, “ma Wayne yn dueddol o wahodd merched bach byr i’r llwyfan yn ystod ei set gan mai dim ond nhw sy’n gallu ffitio i mewn i siwtiau gwisg ffansi y band”. O’r diwedd, ma na rywbeth gwych wedi dod o lyncu dwr sbeshal ardal Dyffryn Teifi sy’n gwneud i bron pob merch o’r ardal yr un seis a hobbit!
5yb – Ma na griw o fechgyn yn y babell drws nesa yn creu twrw tan rhyw bump o’r gloch – grrrr. Clywed dau ohonyn nhw’n trio helpu’r trydydd (Jon) yn ei feddwdod – mae e wedi colli ei iphone newydd, ac yn chwydu bobman rhwng ysbeidiau o lefen y glaw. Yn clywed un yn esbonio i rywun arall taw doctor yw Jon – typical!
11.30yh – picio draw i weld y Doves – ‘dyn nhw ddim un o’r bandiau mwya’ cyffrous yn fy nhyb i ac yn ddewis rhyfedd mewn ffordd i’r Dyn Gwyrdd – ond mae’r ŵyl yn trio cynnwys pethau heblaw am gerddoriaeth werinol ei naws er mwyn ehangu’r diddordeb. Treulio gweddill y noson yn dawnsio, yn yfed seidr ac yn cwrdd lan gyda ffrindie dw i heb weld ers oesau. Joio mas draw er gwaetha’r glaw.
9.45yh – Beirut – gwych ac yn defnyddio amryw offerynnau o’i deithiau ym Mecsico. Un o’r uchafbwyntiau mor belled o bosib… Clywed wrth ffrind bod Charlotte Church yn yr ŵyl – tsk! – ma nhw’n gadael unrhyw un mewn dyddie ma! Tybed a yw hi yma i weld Jonathan Powell a gafodd ei alw’n “athrylith a thrysor bach” gan BBC Radio Cymru ac wedi cyd-ysgrifennu a recordio sawl trac gyda Ms Church.
Heb gyrraedd y babell len/gomedi/sinema eto felly bydd rhaid i’r llenydda aros tan ddydd Sul gyda’r sesiwn Tu Chwith/Beirdd o Gymru – sdim byd fel tamaid o lenydda i wneud yn iawn am yr holl yfed ma. Fy nghariad wedi taro mewn i Dyl G, cyfarwyddwr Seperado!, oedd yn mwynhau peint, felly cymryd ei fod wedi cael ymateb arbennig yn y dangosiad.
7yh- treulio peth amser yn Llwyfan Far Out yn mwynhau Sleepy Sun o Galiffornia – problemau technegol ond seiniau diddorol a Steve Mason, gynt o’r Beta Band – gwych.
6.45yh – Caitlin Rose – merch o Nashville yn llenwi’r prif lwyfan yn reit hyderus a dweud y gwir – mwynhau storïau ei chaneuon yn fwy na dim. Edrych o gwmpas – os oes na iwnifform ar gyfer yr ŵyl, dyma hi – crys siec, barf, gitâr, peint.
3yh – Chwerthin yn dawel bach wrth feddwl ei fod yn glir taw ‘pobl greadigol’ o Lundain sy’n bennaf gyfrifol am raglen (wych) yr ŵyl – er enghraifft, dw i ddim yn hollol siŵr y byddai’r artistiaid crwydrol rhyfedd sy’n lansio’n sydyn ar bobl yn cael yr un ymateb gan ddynes fach o Shir Fôn yn y Steddfod. Ry’n ni’r Cymry yn fwy debygol o redeg bant!
Cerdded o gwmpas – ma na gymaint i wneud – Gardd Einstein yn arbennig yn apelio ac yn llawn arbrofion, sgyrsiau diddorol a lliw. Ma’r ŵyl yn arbennig ar gyfer teuluoedd hefyd gyda chyfleusterau a digwyddiadau ar eu cyfer.
2yh – I ddyfynnu Euros Childs: “Bwydtime!”. Www, ma stondinau’r Dyn Gwyrdd yn fy atgoffa i o’r ‘Food Hall’ ers dalwm yng Nghaerdydd – neuadd enfawr yn llawn bwydydd o bob cwr o’r byd. Setlo am fyrgyr cig carw lleol – neis iawn. Teimlo mod i’n bwyta bob pum munud yn yr ŵyl ma.
Gwener: 1.15yh – gwylio Spencer McGarry Season – roedd e’n arfer gweithio’n y Cynulliad gyda’m chwaer i, ond heddiw mae ganddo statws llawer yn fwy cŵl… Dw i’n mwynhau ei set hyderus, ond beth sy’n fy niddori i yw’r baby grand piano ma nhw’n ei ddefnyddio – diawch, roedd hi’n ddigon o jobyn i ‘nghariad sy’n chwarae mewn band fory i ddod a’i gitâr yma’n ddiogel!