Mae trefnwyr Gŵyl Car Gwyllt ym Mlaenau Ffestiniog wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cynnal yr ŵyl ar wefan Facebook am 6 yr hwyr nos Sadwrn (Gorffennaf 4).

Roedd yr ŵyl i fod i ddigwydd dros y penwythnos hwn ond bu’n rhaid i’r trefnwyr ganslo yn sgil pandemig y coronafeirws.

Felly aethon nhw ati i ofyn i’r bandiau oedd fod i berfformio i greu fideos o’u hunain yn er mwyn cael eu ffrydio ar-lein.

Er nad yw’r trefnwyr wedi cyhoeddi yn union pa fandiau fydd yn cymryd rhan, mae golwg360 yn deall bod DIENW, 3 Hŵr Doeth a Hap a Damwain ymysg y bandiau sydd wedi paratoi fideos i’r ŵyl ddigidol.

“Nos Sadwrn yma, byddwn yn rhoi blas i chi o’r bandiau ddylai wedi bod yn chwarae eleni, byddwn yn ôl flwyddyn nesaf, gobeithio, yn gryfach ac yn fwy parod am y parti,” meddai datganiad ar dudalen Facebook Car Gwyllt.