Bydd DJ Radio 1 Nick Grimshaw a’r gantores Rita Ora yn ymuno a Simon Cowell a Cheryl Fernandez-Versini ar banel beirniadu cyfres dalent yr X Factor eleni.

Fe wnaeth Simon Cowell gadarnhau’r newydd heddiw gan ddweud: “Mae’r cyfuniad o Nick, Cheryl a Rita yn mynd i fod yn llawer o hwyl! Maen nhw i gyd yn dod â llawer o frwdfrydedd ac angerdd am gerddoriaeth i’r sioe.”

Roedd Rita Ora yn feirniad ar gyfres ddiwethaf The Voice ar y BBC tra bod Nick Grimshaw wedi bod yn cyflwyno rhaglen foreol Radio 1.