Don McLean
Mae’r canwr Don McLean yn gwerthu ei lawysgrif a nodiadau gwreiddiol i’r gân enwog ‘American Pie’.

Bydd y llawysgrif yn cael ei gwerthu mewn arwerthiant yn Christie’s yn Efrog Newydd ac mae disgwyl ei gwerthu am bris rhwng £675,000 a £1 miliwn.

Mae’r pecyn sydd ar werth yn cynnwys 16 tudalen sy’n cynnwys y llawysgrif wreiddiol a gwahanol ddrafftiau o’r gân.

Cafodd ‘American Pie’ ei rhyddhau yn 1971 ac roedd yn Rhif 1 yn siartiau’r Unol Daleithiau am bedair wythnos yn 1972.

Dywed Don McLean, 69, sy’n byw yn Maine, fod ysgrifennu’r gân yn “daith gyfriniol i’w orffennol.”