Ar gyfer ei albwm newydd mae Geraint Jarman wedi cydweithio efo gitarydd newydd er mwyn cyfansoddi caneuon gwerinol “noeth”.

Mae Dwyn yr Hogyn Nôl yn cael ei chyhoeddi ddydd Llun ar label Ankst gan gerddor sy’n cael ei ystyried yn un o hoelion wyth y Sîn Roc Gymraeg.

Mae’r canwr wedi dilyn gyrfa Gareth Bonello ers sbelan.

“Dw i wastad wedi bod yn ffan ohono fo, yn edmygu beth roedd o’n wneud,” meddai Geraint Jarman.

“A wnes i jesd ffonio fo fyny a gofyn… jesd bod yn cheeky a dweud y gwir!”

Gwerthfawrogi’r gitâr

Mae Geraint Jarman yn enwog am recordio gyda gitaryddion gwych megis Tich Gwilym a Peredur ap Gwynedd.

“Mae gen i rywbeth am bobol sy’n chwarae gitâr, fatha Tich [Gwilym]. Ac mae Peredur yn athrylith hefyd.”

Ac mae’n falch o gael mewnbwn Gareth Bonello ar draciau newydd megis ‘Dwyn yr Hogyn Nôl’ a ‘Luned yn y Cae’.

“Mae [Gareth Bonello] yn gosod y sylfaen i lawr yn dda, mae o’n dŵad a rhywbeth efo fo i’r Stiwdio, ac mae o’n gallu cyfleu rhywbeth,” meddai Geraint Jarman.

“Efo’r gân ‘Dwyn yr Hogyn Nôl’ fo gath y syniad o greu ryw American folky beat.”

Mae Dwyn yr Hogyn Nôl ar gael yn y siopau ac ar-lein nawr – gallwch ddarllen y cyfweliad llawn â Geraint Jarman yn Golwg yr wythnos hon.