Calfari
Mae prif ganwr Calfari’n cyfaddef fod y band yn wynebu her wrth geisio dechrau o’r newydd, ar drothwy rhyddhau cân gyntaf.

Yn ddiweddar fe sefydlodd Bryn Williams grŵp newydd roc a blws, ar ôl iddo yntau a Gavin Malone adael eu cyn-fand Forever Kings.

Mae’r grŵp newydd o chwe aelod o ardal Bangor hefyd yn cynnwys Tomos Gashe, Dave Woodhouse, Llŷr Morris Jones a Gwion Gwilym, brawd y gantores Meinir Gwilym.

Fe ryddhaodd Calfari eu cân gyntaf, ‘Erbyn Hyn’, heddiw ac fe allwch wrando arni yma:

Dywedodd y prif ganwr fod y grŵp eisoes wedi trefnu gigiau o fis Tachwedd ymlaen, a bod y band yn gobeithio rhyddhau’u EP cyntaf erbyn mis Mawrth.

Bydd y band hefyd yn canu’n gyfan gwbl yn Gymraeg, yn hytrach na dwyieithog fel yr oedd yn arfer gwneud â Forever Kings.

“Mae o’n sialens [dechrau o’r newydd], ond yn sialens dda – ‘da ni i gyd wedi bod mewn bandiau o’r blaen a ‘da ni wedi gellio yn reit sydyn,” esboniodd Bryn Williams.

“Yn amlwg mae ‘na lot o ffordd i fynd, ond ‘da ni’n barod i fynd amdani.”