Mererid Hopwood
Mae’r beirdd Mererid Hopwood a Jim Parc Nest ymysg y rhai fydd yn talu teyrnged i’r cyn-Archdderwydd Jâms Niclas mewn gŵyl yn Sir Benfro dros y penwythnos.

Dyma’r tro cyntaf i’r ŵyl ddeuddydd gael ei chynnal ac mae un o’r trefnwyr yn gobeithio bydd y digwyddiad yn annog pobol o bob cefndir i ddysgu mwy am y cyn-Archdderwydd.

Bu farw Jams Niclas ym mis Medi 2013. Cafodd ei eni yn Nhyddewi ac fe enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol y Fflint yn 1969. Roedd hefyd yn Archdderwydd rhwng 1981 ac 1984.

Thema Gŵyl Jams Niclas fydd ei gerddi ‘Ffordd y Pererinion’ a bydd y dathliadau yn dechrau yn Oriel y Parc am 7:00 heno.

Dwyieithog

Yn ôl un o’r trefnwyr, Glenys James, mae’r ŵyl wedi ei anelu at bobol Gymraeg a Saesneg:

“Gall siaradwyr Cymraeg hyderus ymuno â’r grwpiau cyfrwng Cymraeg a phwrpas y grwpiau Saesneg neu ddwyieithog yw caniatáu i’r rheiny sy’n dysgu Cymraeg ar unrhyw lefel neu’r rheiny sydd â diddordeb mewn ymuno ar eu lefel gallu personol,” meddai.

“Diffyg hyder i ddefnyddio’r iaith yw’r prif anhawster sy’n wynebu dysgwyr heddiw, ond bydd arweinwyr y gweithdai yn caniatáu i bob aelod o’r grŵp i ddefnyddio cymaint o Gymraeg ag sydd o fewn eu gallu.

Cysylltiad

Ychwanegodd Emma Bowen, Rheolwr Dros Dro Oriel y Parc: “Mae gan ei gerdd ‘Ffordd y Pererinion’ gyswllt arbennig ag Oriel y Parc, gyda phennill wedi’i ysgythru i’r ddaear yn y clos ger carreg Dydd Gŵyl Dewi.

“Comisiynwyd Jâms Niclas gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol i ysgrifennu englynion- cadwyn draddodiadol o gerddi byrion, pan roedd Oriel y Parc wrthi’n cael ei hadeiladu.”

Bydd y dathliadau yn dechrau yn Oriel y Parc am 7:00 heno, gyda sgwrs ddwyieithog ar fywyd a gwaith llenyddol Jâms Niclas gan y cyn Archdderwydd Jim Parc Nest.