Wythnos nesa’ fe fydd Fleur-de-Lys, grŵp roc indi o Fôn, yn rhyddhau sengl newydd, ‘Crafangau’.
Rhyddhawyd eu sengl gyntaf, ‘Difaru Dim Byd’, cwpl o fisoedd yn ôl ac fel y sengl honno, bydd yr ail sengl ar gael i’w lawrlwytho am ddim ar wefan bandcamp y grŵp.
Dywedodd Ianto, basydd y grŵp, bod yr ymateb i’r sengl gyntaf yn hollol annisgwyliadwy, “I fod yn onest, fysa ni ddim wedi breuddwydio taro 1,500 o plays mewn chwe wythnos ar [wefan] Soundcloud. Mae’n deimlad braf pan ti’n gigio ac mae pobl yn gwybod pob un gair i’r gân.”
Nid yw’r grŵp yn rhagweld bydd yr ail sengl yr un mor boblogaidd â’r gyntaf, ond mae Ianto yn gweld potensial iddi.
“Bydd hi’n anodd iawn dilyn olion y sengl gyntaf. Ond mae’n wahanol, yn fwy indi, ac yn ein barn ni mae’n gân well, felly ella fydda ni’n denu pobl oedd efallai ddim yn hoff o’r sengl gyntaf.”
Bydd hi’n bosib clywed y ddwy sengl a chaneuon eraill y grŵp mewn gigs dros yr haf.
Meddai Ieuan: “Mae gennym ni gwpl o gigs yn agor i grwpiau sydd ar daith. Mae’n galonogol iawn bod ni’n chwarae ac yn agor i’r grwpiau yma, oherwydd fysa nhw wedi gallu gofyn i grwpiau eraill!”
Yn ogystal â chwarae gigs, mae’r band yn awyddus i ryddhau rhywbeth ‘caled’ ar CD yn y dyfodol.
“Mae EP yn syniad sydd yn cael ei grybwyll yn fwyfwy gennym ni yn ddiweddar,” meddai Ieuan. “Rydym ni wedi bod yn sôn, felly os ydy’r cyfle’n dod bysa ni’n ei gymryd heb amheuaeth. Yn enwedig gyda ni’n gwasgaru dros y wlad flwyddyn nesaf i brifysgolion gwahanol.
“O ran y tymor byr, mi fydd un sengl arall yn cael ei recordio cyn yr Eisteddfod.”
Bydd ‘Crafangau’ yn cael ei rhyddhau’n swyddogol ar 20 Mehefin, ond mae modd i chi wrando ar y sengl isod.