Mewn seremoni i nodi 50 diwrnod cyn cychwyn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli, fe gafodd Coron a Chadair y Brifwyl eu cyflwyno i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl neithiwr.
Mae’r Goron a’r wobr ariannol eleni yn cael eu rhoi gan Gyngor Sir Gâr, a’r artist lleol, Angharad Pearce Jones, sydd wedi ymgymryd â’r dasg o gynllunio a chreu y Goron.
Bydd yn cael ei gyflwyno ym mis Awst am ddilyniant o 10 o gerddi rhydd heb fod dros 250 llinell, dan y teitl ‘Tyfu’. Dylan Iorwerth, Marged Haycock a Dafydd Pritchard yw’r beirniaid.
Meddai’r artist, Angharad Pearce Jones: “Mae’r cynllun ar ffurf coeden, sy’n tyfu o’r tu blaen tuag at y cefn. Daeth yr ysbrydoliaeth o hanes coeden Myrddin, o ble mae tref a Sir Gaerfyrddin yn cael eu henwau.
Y Gadair
Mae’r Gadair yn cael ei chyflwyno gan Stuart Cole, er cof am ei fam a’i dad, a rhoddir y wobr ariannol gan Huw a Jean Huw Jones, Rhydaman, er cof am eu rhieni nhw.
‘Lloches’ yw’r teitl eleni, gyda’r beirniaid, Llion Jones, Alan Llwyd ac Idris Reynolds, yn chwilio am awdl ar fwy nag un o’r mesurau caeth heb fod dros 250 llinell.
Y crefftwr lleol Robert Hopkins yw gwneuthurwr y Gadair eleni:
“Mae’r Gadair wedi’i gwneud allan o goedyn ywen o ardal Llandysul a gwlân o Lanfihangel yr Arth ger Pencader.
“Mae’n bwysig gan mai bwriad y Gadair yw dangos nodweddion y sir, yr arfordir, y bryniau, y tirwedd, a nodweddion eraill fel y rygbi a’r Scarlets a’r ‘corols’ ys dywed trigolion Sir Gâr.”