Gwacamoli
Bydd Gwacamoli, y band roc o Ynys Môn, yn ail ffurfio a chwarae’u gig cyntaf ers tair blynedd ar ddeg yng Ngŵyl Cefni ar 14 Mehefin, gyda’r bwriad o drefnu mwy o gigs a rhyddhau EP wedi hynny.

Y brodyr Dylan a Gethin Jones ffurfiodd Gwacamoli yn 1998 gan ryddhau eu EP cyntaf, Topsy Turvy, ar Recordiau Sain y flwyddyn ganlynol.

Yr un aelodau fydd yn chwarae nos Sadwrn a’r hyn wnaeth deithio ar draws Prydain ar ddechrau’r mileniwm.

Yn ymuno â’r gitarydd a chanwr, Gethin a’r basydd Dylan, bydd Deian Elfryn ar y dryms, Siôn Llwyd ar yr allweddellau a Dyfed Roberts ar gitâr.

Gigs yn galw

Yn ôl Gethin, y cyfle i chwarae’n fyw unwaith eto oedd yr ysgogiad i ail ffurfio.

“Da ni wedi trio ail ffurfio ers tro ond mae hi wedi bod yn dipyn o sialens cael pawb yn yr un stafell,” meddai Gethin.

“Rydan ni wedi ail ffurfio am sawl rheswm, ond y prif un ydy cael chwarae yn fyw eto!”

“Mae lot o’r aelodau wedi bod mewn grwpiau gwahanol dros y 13 mlynedd diwethaf, ond bob tro odda ni’n dod at ein gilydd fel ffrindiau, roeddem yn hel atgofion o’r dyddiau da o deithio a gigio. Mi oedd o’n deimlad grêt chwarae’r traciau eto a ‘da ni’n edrych ‘mlaen i neud ychydig o gigio.”

Yn edrych ymlaen at Ŵyl Cefni, mae Gethin yn bendant nad yw’r grŵp wedi colli’r wefr am berfformio.

“Mi fydd hi’n ddiddorol gweld beth fydd ymateb y cyhoedd i Gwacamoli 2014! Mi oedden ni’n ystyried ein hunain yn fand oedd yn gallu rhoi sioe ‘mlaen – rydan ni’n gobeithio profi hyn eto!”

Cynllunio CD

Yn ogystal â Gŵyl Cefni, mae’r band mewn trafodaeth gyda lleoliadau dros Gymru a Lloegr gyda’r gobaith o fwy o gigs yn y dyfodol.

Mae’r grŵp hefyd yn awyddus i ryddhau EP newydd.

‘‘O ran rhyddhau CD, rydan ni unai am wneud ‘greatest hits’ fath o beth efo tracs newydd arni hefyd, neu rywbeth hollol newydd,’’ medd Gethin.

‘‘Rydan ni’n mynd ati wythnos yma i gael trafodaeth gyda gwahanol labeli.’’

Cynhelir Gŵyl Cefni yn Llangefni ar ddydd Sadwrn 14 Mehefin gyda H a’r Band, Sŵnami, Band 6, Fleur de Lys a Mr Annwyl hefyd yn perfformio.