Wedi llwyddiant yr ŵyl i ddathlu chwarter canrif o gylchgrawn Golwg, mae’r trefnwyr yn falch iawn i gyhoeddi y bydd Gŵyl Golwg yn digwydd unwaith eto ym mis Medi eleni.

Bydd yr ŵyl sy’n cyfuno llenyddiaeth, cerddoriaeth, comedi, sgyrsiau digidol, celf a gweithgareddau plant yn dychwelyd i Lanbedr Pont Steffan ar benwythnos 12 – 14 Medi eleni.

Bydd manylion rhaglen yr ŵyl yn dilyn dros yr wythnosau nesaf, ond mae’r trefnwyr yn addo efelychu’r amrywiaeth o sesiynau difyr ac unigryw a lwyfannwyd llynedd.

“Er mai gŵyl unwaith yn unig oedd Gŵyl Golwg i fod llynedd, roedd llawer iawn o bobl yn galw arnom i’w chynnal yn flynyddol,” meddai un o’r trefnwyr, Owain Schiavone

“Y teimlad oedd bod angen sefydlu gŵyl gelfyddydol Gymreig fel hyn yn yr ardal, felly roedd rhaid i ni geisio ymateb i hynny a chynnal yr ŵyl unwaith eto eleni.

“Campws y Brifysgol yn Llanbed fydd canolbwynt y gweithgarwch unwaith eto gydag amryw sesiynau sgwrsio, cerddoriaeth a digidol ar ddydd Sul, Medi 14. Rydan ni hefyd yn gobeithio ymestyn yr ŵyl i’r dref eleni hefyd gyda noson banel gomedi ‘Golwg Go Whith’ a chyngerdd cerddorol arbennig mewn lleoliadau amgen yn Llanbed.”

Bydd manylion arlwy Gŵyl Golwg 2014 yn cael eu rhyddhau dros yr wythnosau nesaf.

Dyma ran o sgwrs Vaughan Roderick gyda Dylan Iorwerth yng Ngŵyl Golwg llynedd: