Rhan o glawr albwm Goreuon Crys (Sain)
Fe fydd y band metal trwm Crys yn chwarae yn yr Eisteddfod Genedlaethol – am y tro cynta’ ers 1995.

Ac, yn ôl y cyflwynydd radio, Lisa Gwilym, maen nhw’n “edrych ymlaen yn ofnadwy” at y gig sy’n rhan o weithgareddau Cymdeithas yr Iaith yn yr ŵyl.

Crys – y Rocyrs o Resolfen – fydd yn gorffen y nos Lun yng Nghlwb Rygbi Ffwrnes, un o dri safle sydd gan y Gymdeithas yn agos at ganol y dref.

Mae’r band yn ailffurfio’n arbennig ar gyfer y gig, gyda Grant Roberts yn brif gitarydd yn lle Alun Morgan, a fu farw yn 2012.

Perfformwyr lleol

Fel arall, fe fydd llawer o’r pwyslais ar fandiau a pherfformwyr lleol, meddai un o’r trefnwyr, Lowri Johnston.

Bandiau o Sir Gâr fydd yn y Clwb Rygbi ar y nos Wener, er enghraifft – gan gynnwys Mattoidz a Bromas – ac fe fydd y ddwy actores o ardal Llandeilo, Rhian Morgan a Llio Silyn, yn perfformio rifiw yn nhafarn y Thomas Arms ar y nos Suul.

“Bydd unrhyw un sydd wedi bod yn mynd i gigs yn Sir Gâr yn gyfarwydd â’r bandiau ifanc fydd yn chwarae – Bromas, y Banditos, y Ffug a Castro – ac wedi dilyn eu datblygiad wrth iddyn nhw ddod yn fwy adnabyddus nawr i gynulleidfaoedd ar draws Cymru,” meddai Lowri Johnston.

“Mae sawl un ohonyn nhw wedi bod yn rhan o’n hymgyrchoedd hefyd – y Banditos yn chwarae mewn protest ym Mhenybanc, Castro a Bromas yn canu mewn protest yn swyddfeydd y Cyngor y llynedd a’r Ffug yn cefnogi ymgyrch chwe pheth y Gymdeithas.”

Tri safle

Y Thomas Arms yw’r safle ar gyfer nosweithiau llai, mwy cartrefol, gyda Meic Stevens ar frig y rhestr ar y nos Sadwrn gynta’.

Fe fydd cwpwl o nosweithiau hefyd yn nhafarn fach y Kilkenny Cat, sy’n adnabyddus am ei cherddoriaeth fyw.

Wrth gyhoeddi’r enwau ar raglen Lisa Gwilym, fe ddywedodd Lowri Johnston eu bod eisiau defnyddio llefydd oedd yn fywiog eisoes gan ychwanegu at yr hyn sy’n digwydd yno.

Y gobaith, meddai, oedd parhau i gynnal gweithgareddau ar ôl i’r Eisteddfod fynd heibio.