Yn dilyn rhyddhau’r albwm gyntaf  y llynedd, mae Gwyllt, prosiect Amlyn Parry o Lanrug, yn rhyddhau sengl newydd wythnos nesa.

‘Effaith Trwsus Lledar’ yw teitl y sengl newydd a meddwi Amlyn Parry bod ochr wyllt o Gwyllt yn cael ei ddatgelu yn y gân.

“Roedd gen i bar o drwsus lledar hen fy nhad yn hel llwch yn wardrob ers sbel” meddai Amlyn.

“Oherwydd problemau diffyg hyder do’ gen i ddim gyts i’w gwisgo nhw, ond mi ddaeth y dydd. Ar fora dydd Mawrth ym mis Ionawr o’n i’n trio cael fy hun yn barod i fynd i stiwdio a doedd gennai ddim dillad glân o gwbl.

“Yna, nath ’na ola ddod drwy ffenest fy stafell a disgleirio trwy ddrws agored fy wardrob ar y pâr o drwsus lledar. Doedd gen i ddim opsiwn ond rhoi’r lledar ‘mlaen a mynd am y stiwdio.

“Y diwrnod yna, cafodd ‘Effaith Trwsus Lledar’ ei eni.”

Bydd y sengl ‘Effaith Trwsus Lledar’ yn un o’r traciau ar albwm nesaf Gwyllt, ‘Aflonydd’,  a fydd yn cael ei ryddhau cyn yr haf.

Mae’r gân ar gael yn ddigidol o gwyllt.co.uktudalen Bandcamp Gwyllt,  iTunes ac Amazon.