Mi fydd y gantores Cheryl Cole yn ail ymuno hefo panel beirniadu’r gyfres deledu X-Factor, ar ôl arwyddo cytundeb gwerth £1.5 miliwn.

Fe wnaeth Cheryl Cole, 30, roi’r gorau i’w swydd fel beirniad ar y gyfres  yn 2011, ar ôl derbyn cynnig i ymuno hefo fersiwn o’r sioe draw yn America.

Ond cafodd ei diswyddo o’i rôl yn America yn dilyn honiadau bod y gynulleidfa yn cael trafferth deall ei hacen gref o Newcastle. Fe achosodd hyn ffrae rhwng y gantores a chynhyrchydd y gyfres, Simon Cowell.

Mi fydd Simon Cowell hefyd yn dychwelyd i’r fainc beirniadu ar gyfer y gyfres nesaf, fel ymdrech i roi hwb i’r ffigyrau gwylio.

Dywedodd ar ei gyfrif trydar:

“Mae’n swyddogol. Mae Cheryl yn ôl.”