Yr Ods - Osian Howells ar y chwith
Mae Osian Howells yn fwy adnabyddus fel yr un sy’n chwarae’r gitâr fas gyda Yr Ods, ond y mis hwn bydd yn rhyddhau ei sengl unigol gyntaf.
Bydd ‘All Mistakes’ yn cael ei lansio yng Nghlwb Ifor Bach ar 22 Tachwedd a dywedodd y cerddor 24 mlwydd oed o Ynys Môn ei fod wedi treulio amser yn gweithio ar arddull ei ganeuon.
“Dwi wedi bod yn sgwennu ers blynyddoedd,” meddai, “cyn i mi fod yn rhan o Yr Ods – ond dwi wedi treulio dipyn o amser yn trio cael y sŵn yn iawn.”
“Er bod fi wedi anfon dipyn o stwff i Radio Cymru dros y blynyddoedd rŵan dwi’n dechrau rhyddhau pethau’n iawn achos mae hi’n lot haws hefo label y tu ôl i chdi.”
Bydd y sengl yn cael ei ryddhau gan label recordio newydd, Recordiau Blinc, sydd wedi cael ei sefydlu gan y cerddor Gwyn Llewelyn (Afal Drwg Efa) a’r cynhyrchydd Kevin Jones o Lanllyfni.
Mae Osian yn disgrifio’i sengl fel “pop tywyll breuddwydiol” ac mae ei fand byw yn cynnwys Gwion Llewelyn a Griff Lynch o Yr Ods a’i frawd Guto Howells sy’n chwarae i Yr Eira.
Er mai yn Saesneg mae’r sengl, mae Osian yn sgwennu yn y ddwy iaith ac mae’n gweithio ar EP ddwyieithog mae’n gobeithio fydd yn cael ei ryddhau yn y flwyddyn newydd.
Bydd ‘All Mistakes’ yn cael ei ryddhau gan Recordiau Blinc ar 22 Tachwedd, a dyma linc iddi…