Bydd y miloedd a brynodd y llyfr erotig Fifty Shades of Grey yn siomedig o glywed na fydd yr addasiad ffilm ar y sgrin fawr nes 2015.

Roedd disgwyl i’r ffilm gael ei dangos fis Awst nesaf, ond mae Universal Pictures wedi cyhoeddi na fydd yn cael ei dangos tan ddiwrnod San Ffolant 2015 erbyn hyn.

Ar ôl i Charlie Hunnam – yr actor a oedd wedi ei benodi i chwarae rhan y prif gymeriad, Christian Grey – dynnu yn ôl o’r ffilmio, roedd rhaid gwthio dyddiad i ddechrau ffilmio yn ôl.

Jamie Dornan sydd wedi cael ei gastio erbyn hyn, ond ni fydd yn dechrau ffilmio golygfeydd tan fis Rhagfyr.