Edward H Dafis - yn y dyddiau du a gwyn
Fe fydd awdurdodau’r Eisteddfod yn cynnal cyfarfod yn nes ymlaen heddiw i drafod sut i ddelio gyda’r dyrfa anferth sy’n debyg o ddod i gyngerdd ola’ Edward H Dafis.

Yn ôl Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, fe fyddan nhw’n creu cynlluniau ar gyfer y digwyddiad sydd ar lwyfan agored y maes nos Wener.

Mae disgwyl y bydd cannoedd – efallai filoedd – o bobol ychwanegol yn dod i’r perfformiad ac fe fydd angen sicrhau digon o le iddyn nhw o amgylch y patio bwyd.

Fe allai fod y dyrfa fwya’ erioed ar y safle ei hun.

Lle i 3,000

Yn ôl Elfed Roberts, mae staff technegol yr Eisteddfod yn amcangyfri fod lle i tua 3,000 o bobol yn y rhan o’r maes lle mae’r llwyfan agored.

Yn ôl Edward H, hwn fydd eu cyngerdd ola’ erioed, union 40 mlynedd ers eu perfformiad cynta’ yn Eisteddfod Rhuthun 1973.

Mae sôn fod bysiau arbennig yn cael eu trefnu i ddod â chefnogwyr i’r maes ac fe fydd trefnwyr y brifwyl yn trafod ffactorau fel iechyd a diogelwch.