Ffred Ffransis
Mae Cymdeithas yr Iaith yn cyhoeddi rhestr o bobl amlwg sydd wedi llofnodi llythyr agored at y Prif Weinidog Carwyn Jones yn cefnogi galwad am chwyldroi addysg Gymraeg.

Mae’r llythyr yn galw am roi terfyn ar y cysyniad o “Gymraeg ail iaith” ac am gydnabyddiaeth fod y gallu i gyfathrebu a gweithio’n Gymraeg yn sgil addysgol hanfodol.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae’r llythyr yn galw am “symud at drefn lle bydd pob disgybl yn derbyn o leiaf ran o’i addysg yn y Gymraeg.”

Ymhlith y rhai sydd wedi arwyddo’r llythyr mae’r Archdderwydd Christine James, Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol a chynghorwyr lleol, yn ogystal ag addysgwyr a rhai sy’n gweithio gyda phobl ifainc ym maes chwaraeon.

Dywedodd llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith, Ffred Ffransis: “Nid ‘ail’ iaith yw’r Gymraeg gan ei bod yn perthyn i bawb yng Nghymru, ac arwydd o fethiant addysgol yw i unrhyw ddisgybl ymadael a’r ysgol heb fedru byw a gweithio’n Gymraeg mewn gwlad fodern ddwyieithog.”

Ychwanegodd: “Sefydlwyd pwyllgor i gynghori’r cyn-weinidog (yn yr hydref) ynghylch dulliau gwella dysgu Cymraeg ail iaith ond mae’r byd wedi symud ymlaen ers hynny, a dylai Carwyn Jones, sydd nawr yn gyfrifol am yr iaith, ofyn i’r Pwyllgor i adnabod dulliau o symud tuag at sicrhau fod pob disgybl yn derbyn peth o’i addysg yn Gymraeg.”

Bydd rhestr lawn y  rhai sydd wedi llofnodi’r llythyr yn cael ei gyhoeddi  am 2yh heddiw yn uned Cymdeithas yr Iaith ar y maes.