'Enaid Coll'
Mae’r gêm gonsol Gymraeg gyntaf erioed ar gael i’w chwarae ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Mae ymwelwyr i Eisteddfod Sir Ddinbych a’r Cyffiniau yn gallu cael rhagflas ar gêm ‘Enaid Coll’ yn adeilad S4C ar y maes a dyma’r cyfle cyntaf i bobl gael chwarae rhan o’r gêm, fydd yn cael ei rhyddhau i’r cyhoedd yn hwyrach yn y flwyddyn.
Mae ‘Enaid Coll’ yn cael ei datblygu gan gwmni Wales Interactive o Ben-y-bont ar Ogwr, ar y cyd â S4C a Llywodraeth Cymru.
“Daeth Wales Interactive atom ni i holi am y gronfa fasnachol ddigidol,” meddai rheolwr digidol S4C, Huw Marshall.
“Mae syniad y gêm fel ffilm ac roedden ni’n teimlo ei bod hi’n werth buddsoddi ynddi i weld os allwn ni ei datblygu hi yn y dyfodol i fod yn ffilm neu gyfres ar y sianel.”
Bydd y gêm yn cael ei rhyddhau ar PlayStation 3 i ddechrau ac mae hi wedi derbyn sawl adolygiad positif yn barod.
Mae PC Gamer yn ei galw’n “gêm arswyd gwych” a RockPaperShotgun yn ei disgrifio fel “chwa o awyr iasol, iach.”
“Mae’r farchnad lawrlwytho yn werth £1 biliwn y flwyddyn ac mae dros hanner hynny yn dod o gemau,” meddai Huw Marshall.
“Os oes modd i S4C helpu i ddatblygu’r diwydiant gemau yng Nghymru, gorau oll, achos fe fyddai’n golygu cyfle i bobl sy’n gweithio yn y diwydiant creadigol, fel ’sgwennwyr, i ddatblygu sgiliau newydd.”
‘Carreg filltir’
Antur ddirgel seicolegol wedi ei gosod yn y dyfodol yw ‘Enaid Coll’, lle mae’n bosib arbed a mwynhau atgofion gwerthfawr ym myd rhith “Y Cwmwl Eneidiau” ar ôl i chi farw. Yn y gêm mae’r chwaraewr yn ail-fyw rhai o brofiadau cymeriad dirgel er mwyn ceisio darganfod beth ddigwyddodd iddo.
Ychwanegodd Huw Marshall fod y gêm hon yn garreg filltir bwysig i’r iaith Gymraeg.
“Mae Enaid Coll yn brosiect cyffrous iawn sy’n seiliedig ar gysyniad gwych a fydd yn apelio at gynulleidfa eang ar draws y byd.
“Beth sydd mor dda am y gêm yw y bydd siaradwyr Cymraeg yn cael chwarae’r gêm yn eu mamiaith, yn union fel mae pobl eraill ar draws y byd yn ei wneud.
“Eisteddfod Genedlaethol 2013 yw’r cyfle cyntaf i bobl chwarae’r gêm arloesol yma drostyn nhw eu hunain. Felly dewch i adeilad S4C ar y maes i roi cynnig arni.”