Mae ymgyrchwyr iaith yn galw ar Mark Drakeford i wneud adduned Blwyddyn Newydd i bobol Cymru y bydd y Llywodraeth yn gosod nod hirdymor yn 2023 er mwyn sicrhau yn y dyfodol y bydd pob plentyn yn dod yn rhugl yn y Gymraeg.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am roi pob ysgol ar lwybr i fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg, drwy osod nod statudol i sicrhau hynny yn y Ddeddf Addysg Gymraeg sydd ar y gweill gan y Llywodraeth.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryder am ddiffyg gweithredu gan y Llywodraeth ar fater yr iaith, yn dilyn cyhoeddi canlyniadau’r Cyfrifiad ym mis Rhagfyr.
Wrth anelu at filiwn o siaradwyr erbyn 2050, roedd y Llywodraeth wedi gosod targed o 600,000 o siaradwyr Cymraeg erbyn 2021, ond mewn gwirionedd gostyngodd y nifer i 538,000.
‘Cywiro’r anghyfiawnder’
“Mae ganddon ni sefyllfa ar hyn o bryd sy’n golygu bod mwyafrif ein pobol ifanc ni’n gadael yr ysgol heb allu siarad Cymraeg,” meddai Robat Idris, cadeirydd cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith.
“Rydyn ni am weld cywiro’r anghyfiawnder yma drwy osod nod tymor hir y bydd pob disgybl yn cael addysg cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol, gan adeiladu tuag at hynny dros amser.
“Mae’r Llywodraeth wrthi’n paratoi ar gyfer Deddf Addysg Gymraeg ar hyn o bryd, felly dyma gam ymarferol y gall Mark Drakeford a’r Gweinidog Addysg Jeremy Miles ei gymryd er mwyn sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol i gyd yn cael yr un cyfle i ddod yn rhugl yn y Gymraeg.
“Wrth edrych ar dargedau’r Llywodraeth ei hun ar gyfer cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, mae’n amlwg eu bod ymhell iawn o’r nod, ond mae’n ymddangos hefyd bod y Llywodraeth yn ddifater am hynny ac yn amharod i wynebu’r realiti bod angen gweithredu llawer mwy sylweddol er mwyn gwyrdroi’r dirywiad presennol.
“Mae’n dda gosod uchelgais ond mae angen gweithredu sy’n cyd-fynd â’r uchelgais honno.
“Ar ddechrau blwyddyn newydd, rydyn ni’n galw ar y Prif Weinidog a’r Llywodraeth i gymryd eu cyfrifoldeb dros yr iaith o ddifri ac i gymryd camau ymarferol i sicrhau’r adfywiad sydd ei angen.”