Roedd Meic Stevens yn ail i Ceri Wyn Jones yn 2009 (llun - Eisteddfod Genedlaethol)
Yr olaf mewn cyfres o ddyfyniadau o hunangofiant newydd Meic Stephens  – ‘Cofnodion’ sy’n cael eu cyhoeddi’n ecsgliwsif ar Golwg360 yr wythnos hon.

Yn y rhan hon o’r gyfrol mae’n trafod ei fethiant i ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol…

Ni wn a fyddaf yn cystadlu am y Goron byth eto; pwy a ŵyr? Er ei bod yn fuddiol cael barn beirniaid Eisteddfodol, yn y pen draw mae’n rhaid i fardd ganu heb fecso gormod am yr hyn y maent yn gweud am ei waith.

Dw’i ddim yn ’sgrifennu’r math o gerddi sy’n apelio i’r rhai a fagwyd yn y Gymru Gymraeg wledig: dieithryn ydw i o hyd yn eu golwg nhw, ond rwy’n hynod o falch fy mod i wedi ’sgrifennu nifer o gerddi y mae rhai pobol yn eu hoffi…

Ni wn i sicrwydd paham y dechreuais farddoni yn y Gymraeg… Ro’n i wedi blino ar ddarllen shwt gymaint o waith pobol eraill fel golygydd, beirniad a swyddog Cyngor y Celfyddydau, ac wedi colli blas ar farddoniaeth, fwy neu lai… Y sbardun mwyaf imi droi at y Gymraeg i lunio fy ngherddi fy hunan, os deallaf bethau’n iawn, o’dd y profiad o fod ar drywydd rhieni fy nhad.

Ro’dd hanes Nhad yn rhan o’m hanes innau ac fe afaelodd ynof gerfydd fy ngwar; cetho i ryddhad a boddhad mawr wrth roi’r geiriau Cymraeg ar y sgrîn… Yn rhyfedd iawn, ro’n i’n gallu clywed lleisiau’r teulu yn glir yn fy mhen, a siaradai pob un mewn tafodiaith, naill ai un Sir Faesyfed neu un Merthyr. Dyna shwt y dechreuais ddefnyddio’r Wenhwyseg ar gyfer fy ngherddi: ni fu dewis yn hynny o beth…

Des yn agos sawl tro i ennill y Goron dros y blynyddoedd diwethaf, ond fe ddes hyd yn o’d yn agosach yn 2009. Y tro hwn blerwch ar ran yr Eisteddfod, hyd y gwn i, o’dd yn gyfrifol am imi ei cholli.

Halais gyfres o saith cerdd i’r gystadleuaeth, bob un yn cyfeirio at hanes fy nhad, a rhoddwyd y gyfres yn y dosbarth cyntaf gan y tri beirniaid. Wetws Dafydd John Pritchard, ‘Dyma ddilyniant gyda’r grymusaf yn yr holl gystadleuaeth ac, yn sicr, mae’r bardd wedi llunio cerddi sy’n teilyngu’r Goron.’

Ro’dd y siom o golli’r Goron o drwch blewyn unwaith yn rhagor yn ddigon i ymgodymu ag e. Ond pan glywais fod yr enillydd, Ceri Wyn Jones, wedi cipio’r wobr ’da dilyniant o gerddi mewn cynghanedd lawn trodd fy siom yn rhywpeth arall.

Yn fy marn i, ac ym marn llawer yn y Gymru lenyddol, ro’dd wedi mynd ‘yn groes i’r graen’ , ’whedl Dafydd John Pritchard – hynny yw, ro’dd e wedi anwybyddu’r traddodiad

fod y Goron ar gyfer barddoniaeth yn y wers rydd. Rhyw wall ar eiriad y gystadleuaeth yn y Rhestr Testunau o’dd ar fai, medden nhw: yn lle gwneud yn glir taw am ‘bryddest neu ddilyniant o gerddi di-gynghanedd neu yn y mesurau rhydd’ y byddai’r Goron yn cael ei chyflwyno, sef y geiriad arferol, gofynnwyd am ‘bryddest neu ddilyniant o gerddi’ heb fanylu ymhellach.

Ro’dd Ceri Wyn Jones wedi sylwi ar y geiriad ac, yn ddigywilydd braidd, wedi manteisio ar y cyfle i hala ei gerddi cynganeddol i mewn…

Ond Coron neu beidio, hwyrach y byddaf yn bennu trwy gyhoeddi detholiad o’m gwaith yn y man, os byw ac iach. Mae teitl y gyfrol ’da fi’n barod: Cerddi’r Llwy Bren.

Mae ‘Cofnofion’ wedi’i gyhoeddi gan wasg y Lolfa ac ar gael i’w phrynu o’r wefan nawr.