Manon Rhys
Mynd yn fflat wnaeth yr ymgais gynta’ i roi gwobr am lenyddiaeth erotig yn Gymraeg, wrth i’r atal gwobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Roedd edrych ymlaen eiddgar ar ôl i Merched y Wawr gynnig gwobr am ‘Ffuglen Erotig Chwaethus’, ond dim ond dau oedd wedi cystadlu a doedd yr un ohonyn nhw wedi gwneud digon i blesio Manon Rhys.

Diffyg cynildeb oedd un o’r problemau, meddai, wrth bwyslesio nad gwaith “masweddus” fel y nofel Fifty Shades of Grey oedd ei angen.