Y bardd Mari George oedd yr ail am Goron yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, gyda Meic Stephens hefyd yn y pedwar gorau a oedd yn deilwng o ennill.

Mari George o ardal Caerdydd yw un o sêr Talwrn y Beirdd, gyda chanmoliaeth gyson am gerddi rhydd telynegol a sensitif – fe gafodd ei llongyfarch am ddod yn ail mewn noson farddoniaeth yn Llanilltud Fawr neithiwr.

Mae Meic Stpehens, cyn bennaeth llenyddiaeth Cyngor y Celfyddydau ac awdur toreithiog, wedi dod o fewn dim i ennill y Goron o leia’ dair gwaith gyda cherddi yn nhafodiaith y Cymoedd.