Bu farw’r Parchedig W J Edwards yn 83 oed.
Mae’n cael ei gysylltu gydag ardaloedd Llanuwchllyn, Caerfyrddin a Bow Street, ac fe dreuliodd hefyd gyfnod yn Y Wladfa, Patagonia, yn gofalu am gapeli Cymraeg.
Ond doedd WJ – neu ‘Bil’ i’w ffrindiau – ddim yn cyfyngu ei ynni a’i dymer i’r pwlpud, wrth iddo ymgyrchu a brwydro dros yr iaith a heddwch ar hyd ei oes.
Roedd yn aeod brwd o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg a Phlaid Cymru yng nghanol chwyldro’r 1960au a’r 1970au, ac roedd yn gefnogol iawn i ymgyrchoedd pobol ifanc tros hen werthoedd y genedl.
Roedd yn ddarllenwr brwd, yn ogystal â chyfrannu ei ysgrifau ei hun – i bapur Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Y Tyst, yn ogystal â’r golofn y bu’n gyfrifol amdani ym mhapur Y Cyfnod yn y Bala am ddeugain mlynedd.