Bydd cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yng ngogledd sir Benfro dros y penwythnos er mwyn dynodi 140 o flynyddoedd ers geni bardd a chomiwnydd o’r ardal.
Ddwy flynedd yn ôl, fe adroddodd y wefan hon fod yna ddiddordeb yn lleol i godi cofeb yn ardal Pentregalar, ger Hermon, er mwyn cofio am T E Nicholas – neu ‘Niclas y Glas’.
Erbyn hyn, mae trigolion wedi llwyddo i gasglu digon o arian i wireddu’r dymuniad – ac i gynnal ambell ddigwyddiad yn ychwaneg.
Mae’r digwyddiadau hynny’n cynnwys arddangosfa, lansiad cyfrol o ysgrifau Niclas y Glais, a chyflwyniad theatrig.
“Ar wahân i godi’r garreg a’i dadorchuddio hi gan or-wyres i Niclas y Glais, sef Sian Simkins, fe fydd yna arddangosfa wedyn yng Nghanolfan Hermon,” meddai Hefin Wyn, awdur y cofiant Ar Drywydd Niclas y Glais.
“Fe fyddwn ni’n lansio’r llyfr Nithio Neges Niclas hefyd, ac mae yna gyflwyniad theatrig gyda’r nos yn Ysgol y Preseli.
“Ac mae yna hyd yn oed sesiwn o drafod i gwblhau’r holl weithgareddau nos Sul yn hen gapel Niclas ei hun, sef Antioch yng Nghrymych.”
Niclas y Glais – “roedd e’n gymeriad”
Fe gafodd Niclas y Glais ei eni a’i fagu ar fferm Y Llety ym Mhentregalar, sir Benfro, yn 1879.
Daeth i amlygrwydd fel pregethwr ar ddechrau’r 20fed ganrif tra oedd yn weinidog ar gapel yr Annibynwyr ym mhentref y Glais yng Nghwm Tawe rhwng 1904 a 1914.
Ymunodd â’r Blaid Gomiwnyddol ar ddechrau’r 1920au ac, yn 1940, treuliodd gyfnodau yng ngharchardai Abertawe a Brixton o ganlyniad i’w ddaliadau gwleidyddol.
Cafodd ei ysbrydoli i ysgrifennu cyfres o sonedau yn ystod ei gyfnod gan glo – gan ddefnyddio papur tŷ bach y carchar i’w nodi.
Bu hefyd yn ddeintydd yn ardaloedd Pontardawe ac Aberystwyth.
“Roedd e’n gymeriad unigryw,” meddai Hefin Wyn. “Roedd e’n ddyn o argyhoeddiad.”
Bydd carreg goffa Niclas y Glais yn cael ei dadorchuddio ar Grugiau Dwy am 2yp ddydd Sadwrn (Hydref 5).