Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi’r pedwar bardd a fydd yn ymgymryd â’r #Her100Cerdd eleni.

Y pedwar fydd Beth Celyn, Dyfan Lewis, Elinor Wyn Reynolds a Matthew Tucker.

Dyma’r seithfed tro i’r her gael ei gynnal oddi ar ei sefydlu yn 2012 er mwyn dathlu Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth.

Bydd gofyn i bob un o’r pedwar bardd ysgrifennu 100 o gerddi mewn 24 awr – sy’n golygu o leiaf un gerdd yr awr gan bob un ohonyn nhw.

Bydd y cyfan yn digwydd yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy, gan ddechrau am hanner dydd ar ddydd Mercher (Hydref 2) cyn dod i ben y diwrnod canlynol.

Bydd modd anfon ceisiadau neu anogaeth at y beirdd trwy ddefnyddio’r hashnod #Her100Cerdd ar Twitter, a bydd dolen i’r cerddi yn cael ei phostio ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y 24 awr.