Yr ymgyrchydd a’r beirniad llên, Emyr Llywelyn, fydd yn traddodi Darlith Flynyddol Waldo yn Tyddewi heno (nos Wener, Medi 27).
Mae’r digwyddiad wedi ei drefnu gan Gymdeithas Waldo, a gafodd ei sefydlu dros ddegawd yn ôl er mwyn cynnal y cof am y bardd enwog o Sir Benfro.
Dros y blynyddoedd, mae enwau mawr wedi bod yn traddodi’r ddarlith flynyddol, gan gynnwys y diweddar gyn-Brif Weinidog, Rhodri Morgan, a chyn-Archesgob Cymru, Rowan Williams.
Emyr Llywelyn a draddododd ddarlith flynyddol gyntaf y gymdeithas yn 2010, ac eleni fe fydd yn dychwelyd i draddodi ar y pwnc ‘Crefydd Waldo’.
Iaith, diwylliant a chrefydd
Un agwedd y bydd Emyr Llywelyn yn ei hystyried yn Oriel y Parc nos Wener (Medi 27) yw sut y mae iaith a diwylliant yn “rhan hanfodol” o grefydd.
Dywed fod angen ystyried Cristnogaeth Waldo yng nghyd-destun hyn, gan i’w fagwraeth yn Sir Benfro ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf ddylanwadu’n fawr ar ei gredoau.
“Fe fydden i’n dadle bod iaith yn perthyn i fyd yr ysbryd; mae’n perthyn i fyd y pethe anweledig sy’n ffurfio ein bywyd ni – y gweithredoedd sy’n cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth,” meddai Emyr Llywelyn.
“Mae Waldo yn galw iaith y ‘Goleuni’ – ‘hi oedd y goleuni, heb liw’. A beth mae e’n ei ddweud yw bod yna werthoedd yn gynwysedig mewn iaith…
“Mae’r gwerthoedd yna yn cael eu trosglwyddo gan gymdeithas ac, yn y gerdd ‘Preseli’, mae [Waldo] yn dweud am y gymdeithas a’r ffordd o fyw brawdol – ‘Fy nghri, fy nghrefydd’.
“Mae e’n diffinio fe yn yr un terme â Simone Weil oedd yn dweud mai’r unig ffordd mae’r meirw yn gallu llefaru wrth y byw a rhoi canllawie byw iddyn nhw yw trwy gyfrwng iaith a chymdeithas.”
Cristion ‘gweithredol’
Fe aned Waldo Williams yn Hwlffordd yn 1904, a chafodd ei fagu yn y traddodiad Anghydffurfiol gyda’r Bedyddwyr yng Nghael Blaenconin, Llandysilio, lle roedd y teulu wedi ymgartrefu.
Yn ddiweddarach yn ei oes, fe gafodd ei ddadrithio gan grefydd gyfundrefnol ac, yn ei bumdegau, fe ymunodd â’r Crynwyr.
Yn ôl Emyr Llywelyn, doedd Waldo “ddim yn Gristion confensiynol” – roedd yn “Gristion gweithredol” yn hytrach.
“Fe fydda i’n dweud ei fod yn ddyn syml yn sylfaenol – y sancta simplicitas. Roedd symlrwydd mawr yn perthyn iddo fe.
“Roedd dim ond rhaid i chi fod yn ei bresenoldeb e i fod yn ymwybodol bod hwn yn ddyn da. Roedd dim rhaid iddo fe ddweud dim byd – roedd yr holl beth yn amlwg yn ei ffordd e o siarad, gweithredu a byw.”