Martin Huws sydd wedi cipio Coron Eisteddfod Rhys Thomas James yn Llanbedr Pont Steffan eleni.
Fe gafodd y cyn-newyddiadurwr ei goroni mewn seremoni arbennig neithiwr (nos Sadwrn, Awst 24), a hynny ar ôl llunio casgliad o gerddi rhydd heb fod dros 100 o linellau ar y testun ‘Cusan’ neu ‘Cusanau’.
Fe ddaeth i frig cystadleuaeth oedd wedi denu naw o gystadleuwyr.
“Yn wyneb y testun, fe fyddai rhywun yn disgwyl cerddi tyner ond mae’r bardd hwn yn mynd â ni i gyfeiriad tra gwahanol, yn procio’r annisgwyl, wrth sôn am filwr sy’n mynd i ryfel ac yn diodde o PTSD,” meddai’r beirniad Tudur Dylan Jones yn Ysgol Bro Pedr.
“Yn y cerddi mae’r bardd yn cyferbynnu erchylltra rhyfel â chusanau ei gariad.
“Mi fyddai’n hawdd mynd dros ben llestri ond mae’r bardd buddugol yn gwybod sut a phryd i ymatal.
“Mae’n cyfeirio at y clefyd yn delynegol ac mae ei gynildeb yn eithriadol.
“Milwr bychan sy’n llwyr deilwng o’r Goron eleni.”
Mae’n ennill coron a siec gwerth £200.
Y bardd buddugol
Roedd Martin Huws o yn un o ohebwyr cyntaf cwmni Golwg pan gafodd ei sefydlu yn 1988.
Fe weithiodd e wedyn i’r Western Mail, Y Byd ar Bedwar, Taro Naw a Cymru’r Byd.
Cafodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Cathays yng Nghaerdydd, ac mae’n dweud bod ei “ddyled yn fawr i’r athro Cymraeg, Elvet Thomas, a’r athro Ffrangeg, Ted Poole”.