Dysgwr y Flwyddyn eleni yw Fiona Collins, ac fe gafodd ei hanrhydeddu ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol neithiwr (nos Fercher, Awst 7).
Mae Fiona Collins yn gyn-athrawes, a bellach yn gweithio fel chwedleuwraig ers nifer o flynyddoedd gan adrodd chwedlau, mythau a hanesion o bob math i blant ac oedolion.
Mae’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, ac yn credu bod lle pwysig i chwedloniaeth Cymru yn ein bywydau.
Mae straeon y Mabinogi’n gallu goleuo ein gwlad a’n haddysgu am dirwedd ein cenedl, meddai, a dywed fod ganddi ‘genhadaeth gyfrinachol’ i gyflwyno pawb i’r straeon hyn.
Mae Fiona Collins yn byw ym mhentref Carrog ers dros bymtheng mlynedd, ac wedi sefydlu Caffi Stori yn yr ardal, lle daw criw ynghyd yn fisol i chwedleua, adrodd barddoniaeth neu ganu.
Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 1999, ac eleni, roedd yn teimlo’n ddigon hyderus i ymgeisio yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.
Y tri arall yn y rownd derfynol oedd Paul Huckstep o Benmachno; Grace Emily Jones o Lanfihangel Glyn Myfyr; a Gemma Owen o Maenan, Llanrwst.
Y beirniaid eleni oedd Daloni Metcalfe, Janet Charlton ac Emyr Davies.