Rhiannon Ifans yw enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Sir Conwy, gyda’r nofel Ingrid sydd wedi’i leloli yn yr Almaen.

Roedd y gystadleuaeth wedi denu 18 o ymgeiswyr a’r testun eleni oedd cyfrol o ryddiaith greadigol o dan 40,000 gair ar y testun ‘Cylchoedd’.

Y beirniaid oedd Mererid Hopwood, Aled Islwyn ac Alun Cob.

Yn ôl Mererid Hopwood mae Ingrid, sydd yn dilyn hanes merch yn ninas Stuttgart yn yr Almaen yn nofel “grefftus, raenus, a gwreiddiol.”

Cafodd Rhiannon Ifans ei magu ar fferm Carreg Wian ym mhlwyf Llanidan, Ynys Môn, a’i haddysgu yn Ysgol Gynradd Gaerwen ac Ysgol Gyfun Llangefni.