Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi’r rhestrau byrion ar gyfer gwahanol gategorïau Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019.

Ymhlith y llyfrau Cymraeg sydd ar y rhestrau mae’r nofel Llyfr Glas Nebo, a enillodd y Fedal Ryddiaith i Manon Steffan Ros yn 2018, a Cyrraedd a Cherddi Eraill, sef casgliad o gerddi’r bardd, Alan Llwyd.

Mae’r gwobrau yn cael eu dyfarnu i weithiau creadigol yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac fe fydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yn Aberystwyth ar Fehefin 20.

Bydd gwobr o £1,000 i enillydd pob categori, yn ogystal â £3,000 yn ychwanegol i’r prif enillwyr yn y ddwy iaith.

Y tri beirniad ar gyfer y gwobrau Cymraeg yw’r darlledwr, Dylan Ebenezer; yr academydd, Cathryn Charnell-White, a’r bardd, Idris Reynolds.

Mae’r panel beirniadu ar gyfer y llyfrau Saesneg wedyn yn cynnwys yr academyddion, Sandeep Parmar a Louise Holmwood-Marshall a Russell Celyn Jones.

Y rhestrau byrion Cymraeg

Gwobr Farddoniaeth

  • Twt Lol gan Emyr Lewis (Gwasg Carreg Gwalch)
  • Cyrraedd a Cherddi Eraill gan Alan Llwyd (Cyhoeddiadau Barddas)
  • Stafell fy Haul gan Manon Rhys (Cyhoeddiadau Barddas)

Gwobr Ffuglen Prifysgol Aberystwyth

  • Ynys Fadog gan Jerry Hunter (Y Lolfa)
  • Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
  • Esgyrn gan Heiddwen Tomos (Y Lolfa)

Gwobr Ffeithiol Greadigol

  • Cymru mewn 100 Gwrthrych gan Andrew Green (Gwasg Gomer)
  • Y Gymru ‘Ddu’ a’r Ddalen ‘Wen’ gan Lisa Sheppard (Gwasg Prifysgol Cymru)
  • Rhyddhau’r Cranc gan Malan Wilkinson (Y Lolfa)

Y rhestrau byrion Saesneg

Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias

  • Insistence gan Ailbhe Darcy (Bloodaxe Books)
  • Salacia gan Mari Ellis Dunning (Parthian Books)
  • Gen gan Jonathan Edwards (Seren)

Gwobr Ffuglen Saesneg Prifysgol Aberystwyth

  • Arrest Me, for I Have Run Away gan Stevie Davies (Parthian Books)
  • West gan Carys Davies (Granta Books)
  • Sal gan Mick Kitson (Canongate Books)

Gwobr Ffeithiol Greadigol Saesneg

  • Moneyland gan Oliver Bullough (Profile Books)
  • The Light in the Dark: A Winter Journal gan Horatio Clare (Elliott & Thompson)
  • Have a go at the Kaiser: A Welsh family at War gan Gethin Matthews (Gwasg Prifysgol Cymru)