Mae’r gymdeithas farddol yn ne Ceredigion yn “dal i ffynnu”, er gwaethaf colli cewri fel T Llew Jones a Dic Jones yn y blynyddoedd diwethaf, meddai Idris Reynolds.
Mae’r Prifardd o Frynhoffnant, a gipiodd ddwy Gadair Genedlaethol o fewn degawd i ddysgu rheolau’r Gynghanedd ynghanol yr 1980au, bellach ar fin cyhoeddi ei drydedd gyfrol o gerddi.
Mae Ar Ben y Lôn yn gasgliad o gerddi sydd “naill ai ar Gynghanedd neu ar fydr ac odl”, meddai Idris Reynolds, ac mae’n ddiolchgar i raglen Y Talwrn ar BBC Radio Cymru a’r gymdeithas ddiwylliedig ar arfordir deheuol Bae Ceredigion am ei ysgogi i farddoni.
Mae’n ychwanegu y byddai’n cyfansoddi “tipyn yn llai” oni bai am y rhain, er bod rhai cerddi cymdeithasol yn dod yn “ddigymell” iddo weithiau.
Traddodiad yn parhau
Bu farw T Llew Jones, a fu’n byw ym mhentref Pontgarreg ger Llangrannog, ar ddechrau 2009, ac yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn fe gollwyd Dic Jones, y ffermwr a chyn-Archdderwydd Cymru.
Idris Reynolds a sgrifennodd gofiannau’r ddau, sef Tua’r Gorllewin a Cofio Dic – a gafodd ei enwi’n Llyfr y Flwyddyn yn 2017.
“Er ein bod ni wedi colli Dic a T Llew, mae yna gymdeithas yn dal i ffynnu yn fan hyn,” meddai Idris Reynolds wrth golwg360.
“Mae yna rai newydd yn dod i mewn, fel Philippa Gibson, a symudodd i fyw yma ryw chwarter canrif yn ôl, dysgu ein hiaith ni ac wedyn dysgu’r Gynghanedd…
“Mae yna ddosbarthiade yn dal i fynd yng Nghaffi’r Emlyn, Tan-y-groes bob dydd Mercher yn ystod y gaeaf, ac rydyn ni’n trafod cerddi ac yn sgrifennu cerddi.
“Mae yna aelodau o bedwar tîm Talwrn yn dod i’r dosbarthiade hynny.”
“Yn yr un llinach â Sarnicol”
Mae’r dewis o Ar Ben y Lôn yn deitl ar y gyfrol newydd yn un “pwrpasol”, meddai Idris Reynolds, gan ei fod yn cyd-fynd â theitlau ei gyfrolau blaenorol – Ar Lan y Môr a Draw Dros y Don.
Mae yna hefyd gyfeiriad at y cysylltiad teuluol sydd rhyngddo â Sarnicol – y bardd o Fanc Siôn Cwilt a gyfansoddodd ‘Y Garreg Wen’, y gerdd sy’n cynnwys yr agoriad enwog, ‘Ar ben y lôn mae’r garreg wen / yr un mor wen o hyd…’
“Mae Lloyd Mynachlog, Talgarreg, wedi fy sicrhau i fy mod i rywle yn y llinach, felly roeddwn i’n meddwl ei fod e’n deitl digon pwrpasol ar gyfer y gyfrol,” meddai.
Dyma glip o Idris Reynolds yn canu mawl i Ysgol T Llew Jones, yr ysgol gynradd sydd wedi ei lleoli ym mhentref Brynhoffnant ac yn coffáu’r awdur enwog ar gyfer plant ac oedolion.