Mae’n well gan 79% o bobol gwledydd Prydain aros yn eu tai i wylio’r teledu yn hytrach na mynd allan, mae arolwg yn awgrymu.
Tydi hyn ddim yn syndod i arbenigwyr iechyd meddwl ychwaith, sy’n esbonio sut mae’n ffordd hawdd o ddianc o ddryswch bywyd go iawn.
Yn ôl yr arolwg gan YouGov, mae gwylio’r teledu yn cael ei ffafrio cyn gweld ffrindiau neu fynd allan am ddêt.
Mae hi hefyd yn dangos y byddai 69% yn dewis gwylio’r teledu dros gymdeithasu a gwneud gweithgareddau eraill.
Mae’r penderfyniadau hyn ar ddiwedd wythnos o waith yn gallu cael ei ddylanwadu gan dueddiadau gwaith a pherthnasau pobol, yn ôl yr arbenigwyr.
Yn ôl yr ymchwil hefyd, mae 62% wnaeth gymryd rhan yn yr arolwg yn aros i mewn bob nos Sadwrn, ac mae tair awr yn hyd arferol i wylio’r teledu yn ddi-baid.
Mae noson i mewn yn cael ei ffafrio’n fwy gan y dosbarth canol, ac mae 81% o bobol briod neu mewn partneriaeth sifil yn dueddol o aros i mewn hefyd.