Mae dysgwr Cymraeg o Abertawe yn gwerthu gweithiau inc ar ffurf llyfr sy’n seiliedig ar yr wyddor Gymraeg.
Fe wnaeth Mark Hughes o ardal Brynmill y ddinas sefydlu’r prosiect drwy wefan Kickstarter, sy’n gofyn i bobol roi addewid o arian yn gyfnewid am y gweithiau.
Ac ar ôl gosod nod o godi £170 dros gyfnod o fis, mae’n dweud ei fod e wedi bwrw’r targed o fewn dwy awr ar ddiwrnod cynta’r brosiect – a’i fod e bellach wedi codi £950.
Ond roedd pwysau arno fe i godi’r £170. Os nad oedd e wedi gwneud hynny, fyddai e ddim wedi cael yr arian i barhau â’r prosiect.
“Mae yna brosiect ar y we gan artist o America o’r enw Jake Parker, sy’n arlunydd llyfrau comic,” meddai wrth golwg360. “Dyna fy niddordeb, a dyna sut dw i’n arlunio hefyd.
“Mae e’n gwneud prosiect unwaith y flwyddyn o’r enw Inktober, ac mae’n gwneud un darn bob dydd am fis ym mis Hydref.”
Dyfal donc
Mae e wedi rhoi cynnig ar y prosiect sawl gwaith yn y gorffennol, ond wedi llwyddo y tro hwn ar ôl bod yn dysgu Cymraeg gyda Robin Campbell yn y ddinas.
“Siaradais i gyda Robin, ac roedd e’n meddwl y byddai’n gwneud llyfr da. Felly, wnes i greu prosiect Kickstarter, a chael arian amdano fe.
“Penderfynais i wneud yr wyddor Gymraeg. Ro’n i eisiau dysgu Cymraeg ers rhoi’r gorau iddi yn yr ysgol.
“Dw i’n 47 mlwydd oed nawr. Dw i wedi trio sawl gwaith i orffen yr wyddor, ond wedi methu.
“Ond roedd Robin yn canmol, ac fe wnaeth e fy annog i gario ymlaen.”