Mae’r band Calan yn gobeithio cyrraedd cynulleidfa newydd, pan fydd eu cerddoriaeth i’w chlywed mewn cyfres gomedi ddadleuol newydd ar BBC Cymru.
Mae’r gân ‘Kân’ wedi’i dewis yn un o’r traciau ar y gyfres Pitching In gyda Hayley Mills, Larry Lamb a Ifan Huw Dafydd.
“Pan wnaethon ni ffeindio ma’s, ro’n ni’n rili falch i glywed y newyddion,” meddai Angharad Jenkins, aelod o’r band, wrth golwg360.
“Mae’r cast yn adnabyddus, felly gobeithio fydd y gyfres yn boblogaidd, ac y bydd yn gyfle i gael cynulleidfa fwy i’n cerddoriaeth ni.
“R’yn ni’n mwynhau’r gân a’i neges, felly mae’n gret bo nhw wedi edrych i Gymru ar gyfer y gerddoriaeth hefyd. Dyma’r tro cyntaf i ni gael cerddoriaeth ar raglen deledu.”
Ymateb negyddol i’r gyfres
Mae Pitching In wedi cael ei beirniadu am ei hagwedd at Gymru. Mae’n adrodd hanes y cymeriad Frank Hardcastle (Larry Lamb, un o actorion y gyfres Gavin and Stacey), perchennog maes carafannau Daffodil Dunes sydd wedi symud o Loegr i’r Gogledd.
Mewn trêl ar gyfer y gyfres, mae cymeriad benywaidd (Hayley Mills) i’w chlywed yn dweud, “Mae’n hyfryd, galla i weld pam dy fod wedi cwympo mewn cariad â’r lle hwn”.
Mae’r trêl ar gyfer BBC Cymru yn hysbysebu “cyfres gomedi newydd sbon wedi’i gosod yng ngogledd Cymru” – ac mae nifer o bobol wedi dangos eu dicter ar waelod y neges ar y dudalen Twitter.
Ymhlith y cwynion mae portread y gyfres o’r gogledd a’r ffaith fod gan yr actorion acenion y de yn hytrach na’r gogledd, yn ogystal â’r ffordd y mae’n ymdrin â’r mewnlifiad o Saeson i Gymru.
Yn ôl Angharad Jenkins, mae’r gân yn fwy perthnasol fyth yn y cyd-destun hwnnw, gan ei bod yn cyfleu’r “ymdeimlad bod ni ddim yn gwneud digon i sefyll lan dros ein hiaith a’n pobol”.
“Dyna’i neges tafod yn y boch – yr un neges mae sawl bardd yn y gorffennol wedi cyffwrdd â hi.”
Gwaith Nigel Jenkins
Mae ‘Kân’ yn benthyg geiriau’r bardd Nigel Jenkins, tad Angharad, o’i gerdd ‘The Creation’.
“Yn lle ‘Kân’, ro’n nhw am alw’r gân yn ‘The Creation’, sef y darn yn y canol sgwennodd fy nhad,” meddai.
“Ond dw i ddim yn siŵr pa ddarn fyddan nhw’n ei ddefnyddio, achos mae rheg fach yn y canol, felly falle fyddan nhw ddim yn ei ddefnyddio fe, er nad ych chi ddim yn ei chlywed – ond mae pawb yn gwybod beth yw e i fod!”