Er na fu’r dramodydd Meic Povey erioed ar gyfyl Prifysgol Bangor, fe allai fod mai beirniadaeth eisteddfodol gan John Gwilym Jones oedd un o’r pethau a’i gwnaeth yn awdur deialog mor dda, ym marn Alun Ffred Jones.
Fel un sy’n cael ei gofio am ei allu i greu cymeriadau sy’n siarad yn drawiadol o naturiol, roedd Meic Povey wedi cystadlu ar gystadleuaeth y Ddrama Hir yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dwyfor (Cricieth) yn 1975. Y beirniad oedd John Gwilym Jones.
Yn y feirniadaeth, meddai Alun Ffred Jones, mae’r darlithydd yn bwrw iddi i bwyso a mesur “y boen o fethu penderfynu” rhwng Arawn (William R Lewis, Llangefni) a Dafydd (Michael Povey, Garndolbenmaen) mae mater yr iaith lafar yn dod iddi.
“Er cydnabod bod yn rhaid wrth y dafodiaith sathredig a’r geiriau aflednais, mae’n rhaid hefyd wrth rywbeth sy’n rhoi pleser llenyddol,” meddai John Gwilym Jones yn ei feirniadaeth. “I mi, nid yw’r tlysni yma.”
Ond, flynyddoedd yn ddiweddarach, pan oedd Meic Povey yn awdur y ddrama deledu Deryn, ac Alun Ffred Jones yn sylwi ar ba mor naturiol goeth oedd deialog y cymeriadau – fel ag yr oedd ymsonau myfyrgar y cymeriad ‘Meic Parry’ yn y gyfres Talcen Caled gan yr un awdur – roedd o’n gweld dylanwad John Gwil.
“Mae pawb yn meddwl bod sgwennu iaith lafar yn hawdd,” meddai Alun Ffred Jones. “Ond os fasa hi, mi fasa pawb yn sgriptiwr ac yn awdur ac yn gwneud hynny. Mae sgwennu iaith lafar sy’n codi oddi ar y papur, yn grefft.
“Ac er na fuodd Meic Povey ar gyfyl yr un coleg na phrifysgol erioed, mae o’n rhan o waddol John Gwil. Mi gymrodd o sylw o’r feirniadaeth honno yn 1975, ac mi ddaeth yn well sgwennwr o’r herwydd.”