Pan oedd sianel deledu Gymraeg yn dal i fod yn “arbrawf” ym meddyliau llawer yng Nghymru ddechrau’r 1980au, roedd cyn-fyfyrwyr John Gwilym Jones yn allweddol yn creu gwaith i’w darlledu ar y sgrin fach, meddai Alun Ffred Jones wrth draddodi ‘Gwaddol John Gwil’ yn Neuadd Mathias, Ysgol Gerdd Prifysgol Bangor neithiwr (nos Sul, Rhagfyr 2).
Yn ystod y cyfnod cyn i S4C ddechrau darlledu ym mis Tachwedd 1982, roedd yna waith paratoi yn digwydd, a hynny pan oedd rhai pobol yn dal i gredu y byddai holl brosiect sianel deledu uniaith Gymraeg yn mynd i’r gwellt ar ôl rhyw ddwy neu dair blynedd.
“Roedd hynny’n arbennig o wir yng Nghaerdydd – lle’r oedd nifer yn dal heb ddod allan o’r BBC ac HTV – achos nad oedden nhw’n gweld y peth yn para mwy nag ychydig flynyddoedd,” meddai Alun Ffred Jones.
Ond roedd yna rhyw gred a dyfalbarhad yn y bobol hynny a oedd wedi dod dan ddylanwad John Gwilym Jones yn y Coleg ar y Bryn yn y 1960au a’r 1970au. ei bod hi’n iawn i Gymru gael ei sianel Gymraeg… ac y gallai sianel felly ddal ei thir.
“Yma, yn y gogledd, roedd cenhedlaeth o gyn-fyfyrwyr i John Gwil, yn allweddol yn y diwydiant teledu annibynnol ddatblygodd yng Nghaernarfon ac yng Ngwynedd. Roedd sgriptwyr, cynhyrchwyr, cyfarwyddwyr ac actorion yn eu plith.
“Dw i ddim am enwi pawb,” meddai Alun Ffred Jones, “dim ond nodi rhai, fel y rheiny yn Ffilmiau Eryri (Norman Williams a John Ogwen ac eraill), Ffilmiau Llifon Gareth Lloyd Williams (oedd yn gyfrifol am Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan a’r Wisg Sidan a sgriptwyd gan Eigra Lewis Roberts) a chwmni fel Ffilmiau’r Tŷ Gwyn (Cysgodion Gdansk), a Ffilmiau’r Nant, lle’r o’n i’n gweithio yn gwneud te i Wil Aaron.
“Mae fy nyled i’n fawr i John Gwil.”