Roedd John Gwilym Jones yn trosglwyddo gwerth geiriau a mynegiant i’w fyfyrwyr a’i actorion ym Mhrifysgol Bangor, cyn bod yna ffasiwn beth â choleg i actorion Cymraeg yng Nghymru.
Dyna farn y cyn-gynhyrchydd teledu ac Aelod Cynulliad, Alun Ffred Jones, wrth draddodi’r gyntaf mewn cyfres o ddarlithoedd blynyddol yn enw’r diweddar ddarlithydd.
“Y ddadl fawr ganddo fo bob amser oedd mai’r mynegiant oedd yn bwysig, nid yr hyn oedd yn cael ei ddweud,” meddai. “Er, dw i ddim yn siŵr os oedd o’n credu hynny. Ond roedd hi’n ddadl ganddo fo…
“Pan gafodd o ei benodi {yn ddarlithydd] yn 1953, doedd ganddo fo ddim y pedigri o ran bod yn ysgolhaig Cymraeg traddodiadol. Roedd John bron yn hanner cant oed bryd hynny… maen nhw’n ymddeol yn hanner cant y dyddiau yma!”
“Creu tlysni allan o fywyd”
“Ar wahân i gynhyrchu dramâu, mi sefydlodd gwrs ysgrifennu creadigol – un o’r rhai cyntaf ym mhrifysgolion Cymru – ac mi esgorodd hynny ar awduron fel Eigra Lewis Roberts, John Rowlands, Nesta Wyn Jones, Einir Jones… er, dw i ddim yn meddwl y basa John Gwil ei hun yn dweud mai fo grëodd y rhain, ond roedden nhw’n ymateb i rywbeth oedd yn digwydd a’r amgylchiadau ar y pryd.
“A dyna waddol arall John Gwil… Roedd o fel rhyw arwerthwr tai oedd yn trio eich cael chi i brynu plasdy mawr,” meddai Alun Ffred Jones. “Mi fydda’ fo’n mynd â chi o gwmpas y tŷ, yn dangos y llofftydd a’r ystafelloedd crand i chi, yn agor y ffenestri a’r llenni led y pen… a dyna oedd o’n ei wneud efo llenyddiaeth…
“Dw i’n ei gofio fo’n dweud yn sydyn, ‘Dw i newydd ddarllen nofel o America, Naked Lunch, gan awdur o’r enw William S Burroughs, ac mae o’n medru ysgrifennu. Oes yna rywun yma wedi’i darllen hi?’
“Roedd Charles Burrows yn hogyn drwg,” meddai Alun Ffred Jones wedyn. “yn cymryd pob math o gyffuriau ac yn eu golchi nhw i lawr efo bourbon [wisgi] yn aml iawn. Ac am y profiadau hynny yr oedd o’n ysgrifennu. Nid y math o nofel yr oeddech chi’n disgwyl clywed cyfeirio ati mewn darlith gan hen lanc o’r Groeslon.
“Ond tanlinellu’r pwynt oedd o bod ysgrifennu da yn medru creu rhyw ‘dlysni’ – fel y bydda fo’n dweud – allan o’r profiadau mwya’ gwallgo. Ac mi oedd Burroughs yn boncyrs.
“Dw i’n credu hefyd bod yna elfen bach o’r darlithydd yn rhoi ar ddallt i ni, fyfyrwyr, nad oedd o mor ddiniwed na hen ffash ag yr oedd o ym meddyliau rhai ohonan ni!”